imports.jpg

Wrth i ni ddirwyn tuag at ddiwedd y Cyfnod Pontio gyda 2021 ar y gorwel, bydd newidiadau posib i dollau, masnach a gweithdrefnau rheoleiddio ar gyfer nwyddau sy’n cael eu mewnforio. Mae’r newidiadau hyn yn mynd i effeithio ar bob busnes yn y sector garddwriaeth sy’n prynu o dramor. Bydd y weminar hon yn pwyso a mesur y newidiadau ac yn ystyried beth mae angen i fusnesau ei wneud i fewnforio yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl er mwyn sicrhau bod y cyflenwad yn parhau.   

Mae llefydd yn brin yn y weminar hon ac ar hyn o bryd mae’n agored i fusnesau garddwriaeth sydd eisoes yn mewnforio a/neu’n allforio.

I wneud cais am le ar yr hyfforddiant, cysylltwch â tyfucymru.lantra.co.uk

Os nad ydych chi’n mewnforio/allforio ar hyn o bryd, ond bod hwn yn faes yr hoffech chi ddysgu mwy amdano, anfonwch e-bost atom yn tyfucymru@lantra.co.uk i fynegi diddordeb mewn hyfforddiant yn y dyfodol.