sunflower-3790834_1920.jpg

This event has passed

Mae Tyfu Cymru yn cynnal gweminar ar flodau'r haul gan fod llawer o ddiddordeb yn y cnwd ar hyn o bryd, o dwristiaeth fferm lle gallwch ddewis eich blodau eich hun a’r tyfwyr blodau i'w torri. Mae’r cnwd hwn yn gymharol syml i’w dyfu a gan ei fod yn gnwd y gellir ei gyfuno mae ganddo fwy o ddewisiadau ar gyfer rheoli chwyn na rhai cnydau garddwriaethol eraill. Mae’n cael ei ystyried yn ddewis rhad i dwristiaeth fferm ac mae’n cynhyrchu sioe ysblennydd y gellir ei chysylltu ag ymweliadau â ffermydd.

Gellir gwerthu blodau, neu gellir codi tâl mynediad am ddod i'w gweld.Gellir rhychu neu blannu'r cnwd ac mae dau fath, sef y mathau o orchudd hadau adar lle mae costau hadau yn isel, neu ar gyfer y mathau mwy datblygedig - blodau arbennig i’w torri sy'n cynhyrchu canlyniadau y gellir eu rhagweld.

Yn aml, mae cyfuniad o’r ddau yn cyd-fynd yn dda â thwristiaeth fferm.Gellir eu rhaglennu am dymor hir fel arfer rhwng mis Mehefin a diwedd mis Medi a gellir eu defnyddio fel pwnc drysfa neu’n gymysg ag india-corn.

Cyflwynir y weminar gan Sarah Cook, arbenigwr cnydau âr ADAS a Chris Creed cynghorydd yng Nghymru ar atyniadau ‘hel-eich-hun’ (PYO) a ffermydd.