Peat Free event.jpg

This event has passed

Mae rhagor o bwysau gwleidyddol a masnachol i roi’r gorau i ddefnyddio mawn i gynhyrchu cnydau garddwriaeth. Bydd Defra’n cyhoeddi ei strategaeth mawn yn ddiweddarach yn 2020, ac fe allai arwain at fesurau pellach os ni fydd y diwydiant yn gallu symud yn nes at y targed o beidio â defnyddio mawn mewn garddwriaeth fasnachol erbyn 2030. Bydd y weminar hon yn canolbwyntio ar newid i beidio â defnyddio mawn wrth dyfu planhigion mewn potiau mewn systemau cynhyrchu cydau. Bydd y weminar yn trafod datblygiad model y cyfrwng tyfu, ei roi ar waith, gan gynnwys ei fecaneiddio, mewn amrywiaeth o systemau cnydau a chanlyniadau’r pum mlynedd o dreialon masnachol ar blanhigion. Bydd y drafodaeth yn cyfeirio at ddatblygiad masnachol y gwaith a sut gall tyfwyr a gweithgynhyrchwyr y cyfrwng tyfu gael mynediad at wasanaeth newydd Cyfrwng Tyfu ADAS i greu cymysgedd tyfu sy’n perfformio’n uchel am gost isel.