Online Shopping image (1).jpg

This event has passed

P’un ai os ydych chi’n gwerthu o fusnes-i-fusnes neu’n syth i’r defnyddiwr, mae’r gwerthu ar-lein wedi tyfu’n sylweddol, yn enwedig eleni oherwydd goblygiadau Covid-19. Yn aml nid yw’r costau a’r goblygiadau ariannol mor amlwg. Mae’r weminar hon yn trafod ymarferoldeb e-fasnachu gan gynnwys y goblygiadau o ran cost, y prif ystyriaethau a sut i ddefnyddio e-fasnachu i fodelu eich busnes. Bydd ein panel o arbenigwyr a busnesau profiadol yn rhannu eu gwybodaeth ac yn ateb eich cwestiynau penodol ynglŷn â’r pwnc.


Cwestiynau i’w trafod yn ystod y sesiwn:

• Beth yw ar-lein?
• Ble mae eich cwmni arni heddiw o ran e-fasnachu?
• Pa gostau / arbedion sydd yna o fynd ar-lein?
• Beth allwch chi ei werthu ar-lein a beth allwch chi ei ychwanegu i gynyddu’r cynnig ar-lein?
• Pryd rydyn ni’n dechrau mesur gwerthiant ar-lein?
• Dosbarthiad - sut mae pobl yn delio â’r costau ac yn cynnwys gwastraff?

Ein panelwyr yw:

Neil Alcock Rheolwr Gyfarwyddwr Seiont Nurseries LTD, sy’n cynhyrchu 850,000 o leinars a 400,000 o blygiau bob blwyddyn. Yn ddiweddar, maen nhw wedi ffurfio partneriaeth â Love Gardening Direct i ddarparu gwasanaeth archebion drwy'r post i’r cyhoedd.

Richard Bramley Perchennog Farmyard Nurseries, meithrinfa fasnachol sydd wedi bod yn tyfu ac yn cyflenwi amrywiaeth o blanhigion ers dros 37 o flynyddoedd. Mae Richard wedi bod yn brysur yn datblygu ei wefan e-fasnach dros y 3 neu bedair blynedd diwethaf ac mae’n anfon hyd at 200 o flychau bob wythnos.

Rob Evans Perchennog Pheasant Acre Plants, busnes teuluol sefydledig sy’n gweithredu o feithrinfa ger Pen-y-bont ar Ogwr yn ne Cymru. Mae Rob yn arbenigo mewn cyflenwi cormau blodau'r cleddyf, cloron dahlias a phlanhigion a bylbiau eraill.

Ric Kenwood Cyd-berchenng Claire Austin Hardy Plants, sy’n arbenigo mewn rhosynnau’r mynydd a gellesg. Mae ganddyn nhw gyfoeth o wybodaeth a phrofiad o werthu gellesg â gwreiddiau moel, rhosynnau’r mynydd â gwreiddiau moel, lilïau undydd, a phlanhigion lluosflwydd mewn potiau ar-lein.

I gofrestru ar gyfer y weminar hon anfonwch e-bost at tyfucymru@lantra.co.uk