exports.jpg

O 1 Ionawr 2021 ymlaen, bydd y ffordd rydym yn gwerthu nwyddau i’r Undeb Ewropeaidd yn newid. Mae hyn wrth gwrs yn cynnwys gwerthu i Weriniaeth Iwerddon ac mewn rhai achosion i Ogledd Iwerddon. Diben y weminar hon yw ceisio taro golwg dros y trefniadau newydd o ran tollau, masnachu a rheoleiddio er mwyn parhau i werthu yn y sector garddwriaeth a’r dewisiadau sydd ar gael nawr ac i’r dyfodol i gefnogi gwerthiant i gwsmeriaid.

Mae llefydd yn brin yn y weminar hon ac ar hyn o bryd mae’n agored i fusnesau garddwriaeth sydd eisoes yn mewnforio a/neu’n allforio.

I wneud cais am le ar yr hyfforddiant, cysylltwch â tyfucymru.lantra.co.uk

Os nad ydych chi’n mewnforio/allforio ar hyn o bryd, ond bod hwn yn faes yr hoffech chi ddysgu mwy amdano, anfonwch e-bost atom yn tyfucymru@lantra.co.uk i fynegi diddordeb mewn hyfforddiant yn y dyfodol.