tyfu ben hartman.jpg

This event has passed

Yn dilyn galw mawr ac ar ôl ei weminar ddiweddar - ‘Earning a comfortable living on a farm’ - bydd Ben Hartman, awdur The Lean Farm, yn ymuno â ni eto i gynnal gweminar. Y tro hwn, bydd yn canolbwyntio ar gompostio ar ffermydd bach a chreu pridd heb ei droi. Yn y weminar yma bydd Ben Hartman, awdur The Lean Farm, yn egluro ei ffordd effeithlon a rhad o wneud a defnyddio compost sy’n llawn maetholion. Bydd hefyd yn egluro sut mae’n creu pridd heb ei droi, gan ddefnyddio compost sydd wedi cael ei wneud ar y fferm, a chompost wedi’i brynu. Mae gwneud a defnyddio compost yn sgil hanfodol ar gyfer ffermwyr llysiau ar raddfa fach, a bydd y weminar yma’n rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i ddechrau arni, neu i fod yn fwy effeithiol wrth wneud compost. Bydd sesiwn holi ac ateb yn cael ei chynnal ar ôl y cyflwyniad.