Mae egwyddorion iechyd pridd yn gweithio. Pan fyddan nhw’n cael eu rhoi ar waith yn llym, maen nhw’n arwain at ganlyniadau go iawn – mae hyn yn wir o ffermydd mawr i erddi marchnad: gwell strwythur i’r pridd, cnydau iachach a chynnyrch mwy cyson. Hefyd, y tyfwyr sydd wedi rhoi’r egwyddorion hyn ar waith yn fwyaf trwyadl sy’n gweithredu fwyaf proffidiol heddiw. Yn y weminar yma, byddwch chi’n dysgu beth yw’r egwyddorion iechyd pridd, ar beth maen nhw’n seiliedig, a sut maen nhw’n gwella’r pridd ac yn rhoi strwythur briwsion iddo.
Cyflwyniad i Iechyd Pridd ar gyfer Tyfwyr Masnachol
12 Mai 2020 | Zoom