Mannau Gwyrdd Gwydn

Mae Mannau Gwyrdd Gwydn, prosiect a ariennir gan Ddatblygu Gwledig Ewrop, yn treialu systemau bwyd amgen ac wedi'u hail-leoleiddio gan ddefnyddio cymunedau a'u mannau gwyrdd fel sbardun ar gyfer newid ledled Cymru, er budd tyfwyr, defnyddwyr a'r hinsawdd. Mae gan y prosiect chwe llinyn gwaith arloesol a fydd yn profi'r hyn y gall pobl leol ei gyflawni gyda'i gilydd o gael y cymorth cywir, mynediad i dir a rhyddid i wneud yr hyn y maent yn ei wneud orau. Mae un o'r meysydd hyn yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau ffermio garddwriaethol yn y dyfodol drwy gynllunio a chyflwyno rhaglen hyfforddi beilot i gynorthwyo tyfwyr newydd i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i redeg busnes ffermio garddwriaethol.

Cyfleoedd i hyfforddeion

Ar hyn o bryd, rydym yn estyn allan i ffermydd Cymru sy'n bwriadu recriwtio hyfforddeion ar gyfer tymor 2022. Mae gennym 12 lle wedi'u hariannu'n llawn ar gael ar raglen datblygu garddwriaeth ar gyfer hyfforddeion ar ffermydd Cymru. Bydd Rhaglen Hyfforddi Ffermwyr y Dyfodol Cymru yn ategu dysgu o ddydd i ddydd gydag ymweliadau astudio, seminarau a rhwydweithio. Caiff hyn ei gyflawni gan Lantra a Chynghrair Gweithwyr y Tir mewn cydweithrediad â chasgliad o ffermwyr, tyfwyr ac arbenigwyr diwydiant profiadol.

Bydd y rhaglen yn cynnwys 4 ymweliad astudio a gynhelir dros benwythnosau, 8 gweminar ar-lein, rhwydweithio rhwng cyfoedion a chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant achrededig pellach.

Cyfleoedd i dyfwyr

Yn ogystal â darparu cyfleoedd dysgu i newydd-ddyfodiaid, mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan dyfwyr profiadol a hoffai helpu i gyflwyno'r rhaglen. Dyma gyfle â thâl i rannu gwybodaeth, naill ai drwy gyflwyno gweminar hyfforddi, gweithredu fel fferm letyol ar gyfer penwythnosau hyfforddi, darparu taith fferm neu gyflwyno seminar wyneb yn wyneb ar faes o gwricwlwm y rhaglen. Mae cyfleoedd hyfforddi achrededig wedi'u hariannu'n llawn hefyd i dyfwyr sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau fel hyfforddwyr.

Gofynion

  • Rhaid i'ch menter fferm neu arddwriaeth fod wedi'i lleoli yng Nghymru ac yn arddangos arferion agroecolegol. Gall unrhyw fferm fod yn rhan o'r rhaglen, ond eleni rydym yn arbennig o awyddus i gynnwys ffermydd trefol neu ffermydd o gwmpas trefi, a hefyd ffermydd sy'n gwasanaethu ardaloedd dan gymorth ledled Cymru.
  • Rhaid i'r tyfwr/tyfwyr sy'n goruchwylio'r hyfforddeion fod yn dyfwr agroecolegol medrus gyda gwybodaeth am y meysydd allweddol yng nghwricwlwm ein rhaglen. Mae angen profiad blaenorol o weithio gyda hyfforddeion/gwirfoddolwyr ac ati. Mae hyn er mwyn sicrhau safon uchel o ddarpariaeth. Bydd angen i dyfwyr lenwi ffurflen sicrhau ansawdd wrth wneud cais.
  • Rhaid i'r cyflogwr allu darparu o leiaf 5 mis ar brofiad hyfforddi fferm o 21+ awr yr wythnos.
  • Rhaid neilltuo amser i'r hyfforddai gymryd rhan ym mhob gweithgaredd sy'n ymwneud â Rhaglen Hyfforddi Garddwriaeth Ffermwyr y Dyfodol Cymru.
  • Rhaid i'r cyflogwr allu darparu cyflog dan hyfforddiant ar gyfer yr hyfforddeiaeth gyfan. Rydym o gymorth i ddarparu o leiaf cyflog byw i weithwyr. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosibl, rhaid talu isafswm Cyflog Prentis Cenedlaethol presennol y DU o £4.30 yr awr i hyfforddeion. Gweler canllawiau'r Llywodraeth ar gyflogi prentis yma. Gellir defnyddio Arian o'r cynllun Kickstart a ffynonellau eraill. Cysylltwch â ni os yw hyn yn rhwystr i recriwtio.
  • Bydd y rhaglen hyfforddeiaeth yn rhedeg o fis Mai tan fis Medi 2022 ond gall cyflogaeth ar y fferm ddechrau a gorffen ar unrhyw adeg.

Proses

Byddwn yn gweithio gyda recriwtwyr i greu proffiliau swyddi i hysbysebu hyfforddeiaethau ar gyfer tymor 2022. Bydd y fferm yn llogi hyfforddeion ond byddwn yn helpu i hyrwyddo'r cyfleoedd cyflogaeth a chyfeirio ymgeiswyr sydd â diddordeb i ffermydd. Byddwn yn cyfathrebu'n rheolaidd â ffermydd a hyfforddeion drwy gydol yr hyfforddeiaeth. Fel rhan o'r rhaglen, gofynnwn am wybodaeth am gynnydd ac adborth gwerthuso gan y ffermydd a'r hyfforddeion.

Cynnig

Os oes gennych ddiddordeb mewn recriwtio hyfforddai ar gyfer tymor 2022 a hoffech gymryd rhan yn y rhaglen hyfforddi hon, naill ai fel cyfle datblygu i'ch hyfforddeion neu fel rhan o'r ddarpariaeth, cliciwch yma i lenwi ffurflen mynegi diddordeb. Y dyddiad cau yw Dydd Llun 10 Ionawr 2022. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â lorraine.powell@lantra.co.uk