Pete Seymour

Entomolegydd garddwriaethol

Entomolegydd garddwriaethol yw Pete gyda phum mlynedd o brofiad gydag ADAS, gan arbenigo mewn entomoleg a rheoli treialon. Mae wedi datblygu gwybodaeth eang ym maes iechyd planhigion gan arbenigo mewn ymchwil entomoleg gan ganolbwyntio'n benodol ar bryfed taranau (trips) ac phryfed gleision (aphids) yn ogystal ag adnabod plâu. Mae wedi cyflawni gwaith ar nifer o brosiectau ac wedi chwarae rhan fawr mewn digwyddiadau cyfnewid gwybodaeth gyda thyfwyr yn y diwydiant. Cyn dod yn ymgynghorydd gweithiodd Pete i'r tîm maes gan reoli a chyflwyno gwaith prawf mewn amrywiaeth eang o dreialon. Ers hynny mae wedi gwella ei sgiliau adnabod plâu a chlefydau ymhellach ac mae wedi bod yn gyfrifol am ysgrifennu adolygiadau llenyddiaeth ac adroddiadau o fewn Garddwriaeth ADAS. Ochr yn ochr â'r patholegwyr planhigion a'r entomolegwyr eraill yn ADAS, mae Pete yn helpu i redeg y gwasanaeth clinig planhigion, gan ddiagnosio materion cnydau yn rheolaidd ar gyfer gweithgynhyrchwyr / cyflenwyr planhigion.