Malcom Laidlaw

Director of ML3 Technical Services Limited

Yn ystod y degawd diwethaf, trwy gyfrwng ei gwmni ymgynghori diogelwch bwyd, ML3 Technical Services, mae Malcom Laidlaw wedi helpu busnesau bwyd i gael eu hardystio, yn cynnwys ardystiadau’r Tractor Coch, GlobalG.A.P., BRCGS Food a SALSA. Mae’n ymdrin â phob safon mewn ffordd debyg – beth mae’r archwilydd eisiau ei weld er mwyn dangos bod y cwmni wedi cydymffurfio â’r safon. Trwy ymdrin â phethau yn y ffordd hon, mae busnesau’n cael system reoli wedi’i theilwra sydd nid yn unig yn ‘rhoi tic yn y blychau’, ond sydd hefyd yn gwella’r busnes yn gyffredinol.