Katie Hastings

Cydlynydd Cymru, Sefydliad Gaia

Cydlynydd Cymru ar gyfer Rhaglen Sofraniaeth Hadau Sefydliad Gaia yw Katie Hastings.

Fel rhan o’i swydd mae hi’n gweithio gyda chynhyrchwyr llysiau a grawn i gynyddu eu gwybodaeth ynglŷn â chynhyrchu hadau a’u mynediad at hadau sy’n amrywiol yn enynnol. Hi yw Cyfarwyddwr y sefydliad bwyd cymunedol yng Nghanolbarth Cymru o’r enw Mach Maethlon, lle mae hi’n rhedeg rhaglen hyfforddiant dechrau ffermio ac yn gweithio gyda busnesau er mwyn cynyddu faint o fwyd a gynhyrchir yn lleol y maen nhw’n ei brynu. Yn ogystal, mae Katie yn tyfu gwenith a cheirch fel rhan o Dyfwyr Grawn Machynlleth ac mae hi wedi cynhyrchu llysiau ers nifer o flynyddoedd.