Heulyn Greenslade

Cydlynydd Garddwriaeth

Heulyn yw Cydlynydd Garddwriaeth Tyfu Cymru ac ymunodd â’r tîm ym mis Tachwedd 2021.

Tra oedd Heulyn yn astudio ar gyfer ei gradd Troseddeg, bu’n gweithio yn y diwydiant lletygarwch, a pharhaodd i wneud hynny ar ôl graddio oherwydd yr angerdd cryf dros fwyd a ddatblygwyd ganddi.

Arweiniodd ei chwilfrydedd yn y gadwyn gyflenwi a pherthynas pobl â bwyd ati’n gadael y diwydiant yn 2018 i weithio am dymor mewn gardd farchnad organig yng nghefn gwlad Cymru. Ers hynny, mae diddordeb Heulyn mewn garddwriaeth wedi parhau i dyfu. Yn ei hamser hamdden, mae Heulyn yn weithgar gyda’i grŵp Incredible Edible lleol ac yn gwirfoddoli mewn gardd furiog Fictoraidd sydd yn y broses o gael ei hadfer.

Daw Heulyn â chyfoeth o brofiad mewn gwasanaeth cwsmeriaid i’r rôl gyda Tyfu Cymru.