Download the Toolkit: Tyfu GM Factsheet_FINAL - Welsh.pdf

Datblygwyd y daflen gyngor technegol hon i gyd-fynd â'r Gweminar Garddwriaeth heb Fawn a gynhelir am 12pm ar 28 Medi 2020. Gallwch gofrestru ar gyfer y weminar yma: https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_RiLIYrMtS8C -pezhc9tXuA

Bydd recordiad hefyd ar gael ar ein hyb gwybodaeth yn dilyn y weminar.

Mae darn o'r daflen gyngor technegol isod, lawr lwythwch y daflen ffeithiau lawn ar waelod y dudalen hon.

 

Ymgyrch heb fawn

Amlinellodd Cynllun Amgylcheddol 25 Mlynedd y Llywodraeth, a gyhoeddwyd yn 2018, yr uchelgais i gael gwared ar y defnydd o fawn yn raddol gyda tharged diddymu gwirfoddol terfynol ar gyfer tyfwyr ffrwythau, llysiau a phlanhigion addurnol proffesiynol erbyn 2030. Mae'r sbardun sylfaenol yn un amgylcheddol; mae mawndiroedd yn storfeydd carbon sylweddol, yn draenio mewndiroedd at ddibenion amaethyddol ac yn cynaeafu mawn sy’n rhyddhau carbon, yn cyfrannu’n sylweddol at nwyon tŷ gwydr yn yr amgylchedd.

Yn lle mawn, mae’n rhaid dod o hyd i ddeunyddiau crai amgen sy'n cymharu â pherfformiad mawn mewn systemau lle caiff planhigion eu tyfu mewn cynwysyddion. O ran ‘deunydd crai’, rydym yn golygu deunyddiau sy’n cael eu cyflenwi gan weithgynhyrchwyr cyfryngau tyfu, sydd felly eisoes wedi'u prosesu i'w gwneud yn addas i'w defnyddio fel cyfryngau tyfu, er enghraifft golchi, compostio a graddio. Yn ogystal, rydym yn canolbwyntio ar bedwar math o ddeunydd sydd wedi'u grwpio'n fras sydd ar gael yn fasnachol ar hyn o bryd ac y gellir dod o hyd iddynt yn hawdd: ffeibr pren, rhisgl cnau coco (ffeibr o blisgyn allanol cneuen goco), rhisgl a chompost gwyrdd, sydd i gyd yn adnewyddadwy ac wedi'u seilio ar gelloedd planhigion yn bennaf.

Methodoleg

Mae tyfwyr a gweithgynhyrchwyr cyfryngau tyfu wedi bod yn ymwybodol ers tro o'r angen i leihau'r ddibyniaeth ar fawn, ac mae gwanhau mawn gyda hyd at 30% o ddeunydd amgen yn arfer cyffredin i rai e.e. cynhyrchwyr stoc mewn meithrinfa blanhigion. Mewn sectorau eraill, fel ffrwythau meddal a ffrwythau cansen, mae’r diwydiant wedi troi at risgl cnau coco. Serch hynny, mae canolbwyntio ar un deunydd yn golygu bod y diwydiant yn agored i broblemau o ran pris ac argaeledd, ac mewn gwirionedd, ceir prinder rhisgl cnau coco er mwyn diwallu’r galw yn y DU ac yn fyd-eang. Y gwir amdani yw y bydd yn rhaid cymysgu deunyddiau i greu dulliau amgen heb fawn.

Nid rhywbeth newydd yw ceisio cyfuno gwahanol ddeunyddiau crai i greu swbstradau tyfu addas. Serch hynny, mae yna sialens sylfaenol: sut i ddewis y cyfuniad? Yn aml mae cyfuniadau yn ganlyniad cymysgeddau profi a methu greddfol sy'n cael eu hasesu drwy dreialon tyfu. Ond mae hyn yn broses araf, yn ddrud ac yn gallu arwain at fethiant yn hawdd. Yn ADAS, rydym wedi datblygu strategaeth ar gyfer dull rhesymol o gyfuno cyfryngau tyfu sy’n seiliedig ar nodweddion ffisegol y deunyddiau. Yr amcan yw lleihau nifer y treialon sydd eu hangen, cyflymu'r dewis o gyfuniadau newydd hyfyw a lleihau costau datblygu cynnyrch cyfryngau tyfu newydd. Roedd y strategaeth hon yn seiliedig ar ganfyddiadau rhaglen waith 5 mlynedd a ariannwyd gan Defra, AHDB Horticulture, gweithgynhyrchwyr cyfryngau tyfu a thyfwyr, ar y cyd â Sefydliad Biowyddoniaeth Quadram a Chanolfan Dechnoleg Stockbridge.

Ymarferoldeb

Wrth droi at gyfuniad heb fawn, mae rhai ystyriaethau i fynd i’r afael â nhw o ran rheoli cnydau.

Dyfrhau

Gall deunyddiau heb fawn ymddwyn yn wahanol iawn i fawn, ac efallai y bydd angen dull ‘ychydig ac aml’ o ran dyfrhau. Mae’r wyneb yn dueddol o sychu’n weddol gyflym, sydd gallu bod yn gamarweiniol, oherwydd bod y cynwysyddion yn edrych yn sych er bod, mewn gwirionedd, digon o leithder o dan yr wyneb. Cymerwch amser i ddysgu sut mae'r deunydd yn ymddwyn yn yr haf a'r gaeaf, ac ystyriwch pwyso cynwysyddion i ddechrau, i gael dealltwriaeth dda pan fydd cynhwysydd wedi'i ddyfrio'n ddigonol, a phan fydd yn rhy sych.

Maeth

Mae’n bwysig cwblhau dadansoddiad maeth ar sypiau newydd o gyfryngau tyfu, er mwyn sicrhau bod eich trefn fwydo yn cyd-fynd ag anghenion y cnwd. Mae hefyd yn bwysig monitro pH (asidedd) ac EC (dargludedd trydanol) drwy gydol y cylch tyfu, er mwyn sicrhau bod y rhain yn parhau o fewn yr ystod cywir. Os yw’r EC yn rhy uchel, gall arwain at ddistrywio neu golli’r planhigion. Os yw’r pH yn rhy isel, mae llai o facrofaethynnau fel nitrogen ar gael, a all arwain at ddail hŷn yn dangos arwyddion o ddiffyg ac yn melynu.  Os yw’r pH yn rhy uchel, nid oes macrofaethynnau dethol fel haearn ar gael i blanhigion, sy’n arwain at ddail ifanc yn troi’n wyn.

Mecaneiddio

Mae’n bwysig sicrhau bod eich peiriannau (llenwr potiau, llenwr padelli etc.) wedi’u gosod yn gywir er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn gweddu â’r deunydd y bydd yn llifo drwyddo. Gyda chyfuniadau sy’n fwy ffeibrog, efallai y bydd angen mân addasiadau i’r peiriannau, er mwyn sicrhau bod llif y deunydd yn parhau’n gyson ac nad oes unrhyw flocio.

Plâu, heintiau a chwyn

Mae’r rhyngweithio gyda’r dewis o gyfryngau tyfu o ran plâu, heintiau a chwyn yn gymhleth o bosib, ond yn gyffredinol, os caiff cyfuniad cyfrwng tyfu ei reoli’n dda, ni ddylid gweld unrhyw broblemau mawr. Gall deunyddiau sydd â dŵr uchel achosi problemau gwraidd-barth (gwreiddiau’n pydru fel  Pythium a Phytophthora neu drwy larfau pryfed Sciarid a Shore yn bwydo ar y gwreiddiau), ond gellir datrys hyn drwy gynnwys deunyddiau eraill sydd â llai o ddŵr a phroses ofalus o reoli’r dyfrhau.