Cyflwynir gweithdai a digwyddiadau Tyfu Cymru gan arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant o bob rhan o’r sector. Mae ein hyfforddiant yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau, o gymorth technegol i gyngor busnes i hyfforddiant cydymffurfio. Mae’r holl ddigwyddiadau a gweithdai’n cael eu hariannu’n llawn ar gyfer tyfwyr a busnesau sydd wedi cofrestru gyda’r prosiect. Yn ogystal â’r isod, rydyn ni’n cynnig hyfforddiant a chyngor un-i-un i unigolion a hyfforddiant grŵp wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer busnesau sydd â llawer o weithwyr.

I gofrestru gyda’r prosiect, llenwch Adolygiad Busnes Garddwriaeth. Unwaith y bydd adolygiad busnes wedi’i gwblhau a’i gymeradwyo, rydych yn gymwys i wneud cais am unrhyw un o’r hyfforddiant a’r cymorth isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â ni.

 

Gweithdai / Digwyddiadau Blaenorol

Gweld Gweminarau & Fideos Diweddaraf