Download the Toolkit: Importing-exporting-moving-plants-Nov-22-W.pdf

Mae newidiadau i reoliadau iechyd planhigion yn cael eu cyflwyno wedi i'r DU adael yr UE. Bydd y rhain yn effeithio'n uniongyrchol ar arddwriaeth fasnachol.

Mae llawer o newidiadau ac mae'r newidiadau hyn yn parhau i gael eu gwneud wrth i reolaethau ffiniau gael eu cyflwyno. Fodd bynnag, os ydych chi eisoes yn mewnforio ac allforio bydd y rhain yn gyfarwydd i raddau helaeth. Os ydych chi'n symud planhigion o fewn Prydain Fawr neu newydd ddod i fewnforio/allforio, bydd gweithgareddau newydd ar eich cyfer ond mae llawer o gyngor ar gael. Eich pwynt galwad cyntaf ddylai fod eich Arolygydd Iechyd Planhigion a Hadau APHA.

Nod y rheoliadau yw cynyddu bioddiogelwch ac amddiffyniad rhag plâu a chlefydau planhigion. Mae angen i fusnesau sy'n gwerthu planhigion a chynhyrchion planhigion fod yn ymwybodol, ac os yw'n berthnasol iddyn nhw, weithredu ar y rheoliadau hyn. Mae'n hanfodol, lle mae busnes yn ymwneud â mewnforio neu allforio, masnach busnes-i-fusnes, masnach ar-lein a gwerthu o bell (gan gynnwys danfoniadau cartref), eu bod yn deall y rheoliadau.

Symud planhigion o fewn Prydain Fawr

Mae'n bwysig bod busnesau garddwriaeth yng Nghymru yn ymwybodol o reoliadau iechyd planhigion. Mae'r rhain yn cynnwys cofrestru’r busnes, ardystio, arolygu, pasbortau planhigion a thystysgrifau sicrhau iechyd planhigion, labelu a chadw cofnodion.

Mae sawl term allweddol y bydd angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt a gellir cael mynediad at y rhestrau termau drwy'r adnoddau isod. Ymhlith y termau hyn mae:

Pasbortau Planhigion

Tystysgrifau Ffotoiechydol

Ardaloedd Di-bla (yn y DU sy’n disodli term Parth Gwarchodedig yr UE)

Uned Fasnach

Gweithredwr Awdurdodedig, Gweithredwr Proffesiynol

Newidiodd rheoliadau a ffurf pasbortau planhigion ar ôl 1 Ionawr 2021. Nid yw baner yr UE bellach yn cael ei defnyddio ar basbortau planhigion Prydain Fawr/tystysgrifau ffotoiechydol. Bydd pasbort planhigion y DU yn dangos bod safonau iechyd planhigion Prydain Fawr wedi eu cyrraedd.

Oherwydd dull graddol y Llywodraeth o gyflwyno rheolaethau mewnforio, bydd yn bwysig sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y rheoliadau hyn drwy ddefnyddio'r Porth Gwybodaeth Iechyd Planhigion a thudalennau gwe gov.uk.

Mae angen pasbortau planhigion (neu Dystysgrifau Ffotoiechydol) ar gyfer pob "planhigyn ar gyfer plannu" (gan gynnwys planhigion wedi'u potio) sy'n cael eu masnachu busnes-i-fusnes (sydd fel arfer yn cynnwys gwerthu i dirlunwyr) a lle mae busnesau'n symud planhigion dros 10 milltir, gan gynnwys rhwng safleoedd. Mae angen pasbortau planhigion ar gyfer gwerthu ar-lein i gwsmeriaid difusnes. I gyhoeddi pasbortau planhigion, rhaid i chi gael eich cofrestru a'ch awdurdodi i wneud hynny drwy APHA. Dylid ymgynghori â’ch arolygydd iechyd planhigion lleol ar hyn. Rhaid i bob busnes gadw cofnodion pasbort/tystysgrifau ffotoiechydol. Efallai y bydd eu hangen ar gyfer olrhain planhigion at ddibenion bioddiogelwch.

Mae angen pasbortau planhigion ar gyfer busnesau a sefydliadau.  Mae’n cynnwys elusennau sy’n gwerthu planhigion fel eu prif weithgaredd neu sy’n gwerthu planhigion yn aml.

Erbyn hyn mae llawer o adnoddau ar-lein i esbonio'r rheoliadau. Mae taflen cwestiynau cyffredin ar

https://planthealthportal.defra.gov.uk/trade/plant-passports/plant-passport-faq/#:~:text=A%20UK%20Plant%20Passport%20(PP)%20is%20an%20official%20label%20for,Pest%20Free%20Areas%20(PFAs).

Mae gwybodaeth ar gofrestru a mynediad at fodiwl e-ddysgu ar basbortau planhigion ar gael ar:

Rheolau Doethach ar gyfer Bwyd Mwy Diogel (SRSF) - Porth Gwybodaeth Iechyd Planhigion y DU (defra.gov.uk)

Mae templedi Pasbort Planhigion y DU ar gael yn

UKPP-templates2.pdf (defra.gov.uk)

Mae gwybodaeth am gael eich awdurdodi i ddarparu pasbortau planhigion ar gael ar

Cyhoeddi pasbortau planhigion i symud deunydd planhigion wedi'i reoleiddio yn yr UE - GOV.UK (www.gov.uk)

Os oes gennych gwestiynau pellach, gallwch chi gysylltu â’r Llinell Gymorth Iechyd Planhigion. Yng Nghymru, gallwch chi gysylltu â’r Llinell Gymorth Iechyd Planhigion ar 0300 1000 313 neu e-bostio planthealth.info@apha.gov.uk . Gallwch chi dderbyn cymorth ar basbortau planhigion hefyd os ydych chi’n e-bostio PlantPassportRegistration@apha.gov.uk

Cofiwch y bydd symud planhigion i Ogledd Iwerddon ac oddi wrthi yn gofyn am wahanol weithdrefnau. Bydd mwy o fanylion ar gael gan Defra.

Masnachu ers gadael yr UE

Mae gwybodaeth ar gael am Reolaethau Ffiniau mewn perthynas â Chymru ar

Rheolaethau a seilwaith ar ôl-ymadael â'r UE | LLYW. CYMRU

O 1 Ionawr 2021, roedd angen rhif EORI i symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a'r UE a Gogledd Iwerddon ac Ynysoedd y Sianel

https://www.gov.uk/eori

 

Mewnforio planhigion i Gymru a Lloegr

Cafodd rheoliadau a rheolaethau ffiniau eu cyflwyno fesul cam ar 1 Ionawr 2021.

Dylai mewnforwyr planhigion

  • ymgyfarwyddo â gofynion ardystio
  • cofrestru ar PEACH neu IPAFFS
  • penderfynu a ddylid cofrestru Man Cyrchfan (POD) gan y bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i'r mewnforwyr
  • cofrestru gydag APHA fel Gweithredwr Proffesiynol, neu'r Comisiwn Coedwigaeth ar gyfer coed neu gynnyrch coed

Mae canllaw cynhwysfawr i'r rheoliadau a chofrestru a rhagosod nwyddau ar gael ar

Mewnforio planhigion a chynhyrchion planhigion o'r UE i Brydain Fawr a Gogledd Iwerddon - GOV.UK (www.gov.uk)

Mae crynodeb o'r adnoddau, gyda dolenni, gan gov.uk ar gael ar

Mewnforio ac allforio planhigion a chynhyrchion planhigion - GOV.UK (www.gov.uk)

Mae cysylltiadau drwy Borth Gwybodaeth Iechyd Planhigion y DU ar gyfer mewnforion ac allforion ar gael ar

Masnach - Porth Gwybodaeth Iechyd Planhigion y DU (defra.gov.uk)

Wrth fewnforio, y blaenoriaethau yw bod y tystysgrifau ffytoiechydol yn eu lle, bod rhag hysbysiad yn cael ei wneud o'r mewnforio drwy PEACH neu IPAFFS, a bod dogfennaeth yn cael ei pharatoi a'i chadw. Ar hyn o bryd mae newid i ddefnyddwyr o system PEACH i IPAFFS (Mewnforio Cynnyrch Anifeiliaid Bwyd a System Fwyd).

Bydd y rheoliadau ar gyfer archwilio planhigion sy'n cael eu mewnforio yn newid yn ystod y dull gweithredu fesul cam. Gall archwiliadau gael eu cynnal mewn Mannau Cyrchfan cofrestredig. Bydd angen i fewnforwyr gofrestru'r rhain. Dylid gofyn am arweiniad gan yr arolygydd iechyd planhigion lleol. Mae gwybodaeth ar gael yn y ddolen uchod.

Bydd angen datganiadau mewnforio a gall tariffau a thollau fod yn daladwy. Mae asiantau tollau yn aml yn cael eu defnyddio i ddelio â thasgau gweinyddu.

Mae gweminar cynhwysfawr ar y pwnc hwn ar gael (Mewnforion mewn Garddwriaeth) ar Hwb Gwybodaeth Tyfu Cymru

Allforio planhigion o Gymru a Lloegr

O 1 Ionawr 2021 nid oedd Pasbortau Planhigion newydd yr UE bellach yn ddilys a bydd angen Tystysgrif Ffotoiechydol i symud "yr holl blanhigion ar gyfer plannu" o Brydain i'r UE. Ni chafodd y newidiadau ar gyfer allforio planhigion eu cyflwyno fesul cam, yn wahanol i fewnforion. Mae'r rheolaethau a'r systemau i'w hallforio yn yr UE yn cael eu penderfynu gan yr UE.

Dylai allforwyr planhigion i'r UE

  • ymgyfarwyddo â gofynion mewnforio'r UE ar gyfer eu cynnyrch
  • gwirio a fydd angen profion labordy ar ddeunydd i'w hallforio drwy eu harolygydd iechyd planhigion APHA
  • cofrestru gydag APHA fel Gweithredwr Proffesiynol, neu'r Comisiwn Coedwigaeth ar gyfer coed neu gynnyrch coed
  • gwirio gofynion ychwanegol ar gyfer eu cynhyrchion e.e. marchnata hadau ac amrywiaethau, rhywogaethau wedi'u gorchuddio o dan CITES, cynnyrch organig. Mae rhai planhigion na ellir eu hallforio.

Mae gwybodaeth am allforio, gwneud cais am dystysgrifau ffytoiechydol a chofrestru ar gyfer allforio ar gael ar

https://www.gov.uk/guidance/export-plants-and-plant-products-from-great-britain-and-northern-ireland

Mae canllaw cwestiynau cyffredin ar farchnata, mathau o blanhigion a hadau ar gael ar

https://planthealthportal.defra.gov.uk/assets/uploads/Plant-varieties-and-seed-QA-.pdf

a phlanhigion wedi'u rheoleiddio a chynhyrchion planhigion ar

External-Plant-and-Forestry-V.2-final.pdf (defra.gov.uk)

Fel gyda mewnforion bydd angen datganiadau mewnforio a gall tariffau a thollau fod yn daladwy. Mae asiantau tollau yn aml yn cael eu defnyddio i ddelio â thasgau gweinyddu.

Symud planhigion a chynhyrchion planhigion rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon

Mae'r rheoliadau ar symud planhigion a chynhyrchion planhigion rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn wahanol i’r rheoliadau symud o fewn Prydain Fawr.

Mae'r Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr ar gael i'ch tywys drwy symud nwyddau o dan Brotocol Gogledd Iwerddon https://www.gov.uk/guidance/trader-support-service

 Gogledd Iwerddon i Brydain Fawr

Gellir symud nwyddau o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr yn yr un modd â chyn 1 Ionawr 2021 os ydynt yn nwyddau cymwys Gogledd Iwerddon. Gellir gweld arweiniad ar hyn yn:

Symud nwyddau cymwys o Ogledd Iwerddon i weddill y DU - GOV.UK (www.gov.uk)

Prydain Fawr i Ogledd Iwerddon

Ar gyfer planhigion sy’n cael eu hallforio i Ogledd Iwerddon sydd angen eu harchwilio a’u hardystio, efallai na fydd angen i chi dalu, gyda’r costau’n cael eu hanfonebu gan yr ardystiwr i’r Llywodraeth o dan y Cynllun Cymorth Symud. Mae mwy o fanylion am y Cynllun hwn ar gael ar:

https://www.gov.uk/government/publications/movement-assistance-scheme-get-help-with-moving-agrifood-goods-to-northern-ireland/traders-how-to-get-advice-and-which-costs-are-covered

Cynllun Cymorth i Symud: cael help i symud nwyddau bwyd amaeth i Ogledd Iwerddon - GOV.UK (www.gov.uk)

Os ydych chi’n allforio ffrwythau, llysiau neu flodau wedi’u torri o Brydain Fawr at y UE neu Ogledd Iwerddon, efallai y byddwch chi’n gymwys ar gyfer y cynllun masnachwyr archwilio allforion iechyd planhigion (PHEATS) lle gallwch chi wneud eich archwiliadau eich hun a gwneud cais i dystysgrifau planhigion gael eu cyhoeddi. Mae manylion cofrestru ar gael ar:

PHEATS - Hafan - Porth Gwybodaeth Iechyd Planhigion y DU (defra.gov.uk) 

 

Cyfryngau Tyfu

Bydd angen i'r cyfryngau tyfu sydd ynghlwm â, neu'n gysylltiedig â phlanhigion i'w hallforio o Gymru, gwrdd â gofynion mewnforio trydedd wlad yr UE. Mae canllawiau ar gael nawr:

https://planthealthportal.defra.gov.uk/trade/exports/exports-to-the-eu/special-export-requirements/growing-media-and-special-requirement-guidance-for-exports-to-the-eu/

Cynnyrch organig

Bydd bwyd a bwyd anifeiliaid sydd wedi'i ardystio fel organig ym Mhrydain Fawr yn parhau i gael ei dderbyn fel organig yn yr UE tan 31 Rhagfyr 2023

https://www.gov.uk/guidance/importing-and-exporting-organic-food

Nodiadau ychwanegol

Sefydliadau Llywodraethol

Mae APHA (Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion) yn asiantaeth weithredol o Defra. Ar gyfer planhigion, APHA sy'n gyfrifol am adnabod a rheoli clefydau a phlâu endemig ac egsotig a gwyliadwriaeth plâu a chlefydau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg. Mae hefyd yn gyfrifol am hwyluso masnach ryngwladol mewn planhigion.

Mae PHSI (Arolygiaeth Iechyd Planhigion a Hadau) yn rhan o APHA ac mae’n gweithredu a gorfodi polisi iechyd planhigion yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae gan Arolygwyr Iechyd Planhigion a Hadau, sy'n gweithio mewn rhanbarthau, ddyletswyddau gan gynnwys ardystio planhigion ar gyfer allforion ac arolygu planhigion a deunydd planhigion wedi'u mewnforio. Gellir cysylltu â PHSI am wybodaeth.

Ar hyn o bryd mae'r DU yn gweithredu o dan reoliadau iechyd planhigion SRSF (Rheolau Doethach ar gyfer Bwyd Mwy Diogel) ar gyfer mewnforio ac allforio planhigion.

Tudalennau gwe'r Llywodraeth

Y brif ffynhonnell yw:

Porth Gwybodaeth Iechyd Planhigion

              Mae hwn yn ganolfan ar-lein ar gyfer gwybodaeth iechyd planhigion (gan gynnwys mewnforion ac allforion), data ac adnoddau ar blâu.

https://planthealthportal.defra.gov.uk/

                           

Fideos a modiwlau hyfforddi

Mae safon iechyd planhigion gwirfoddol yn cael ei gyflwyno ac mae hyn yn cael ei ddisgrifio ar dudalennau gwe Plant Iach https://planthealthy.org.uk/ Cynhyrchwyd cyfres o fodiwlau hyfforddi (Cyflwyniad i Iechyd Planhigion ac Ymarfer Bioddiogelwch Da) i gefnogi'r safon hon ac mae'r rhain yn ddefnyddiol i ddeall safon iechyd planhigion.