Mae llawer o newidiadau ac mae'r newidiadau hyn yn parhau i gael eu gwneud wrth i reolaethau ffiniau gael eu cyflwyno. Fodd bynnag, os ydych chi eisoes yn ymwneud â mewnforio ac allforio, bydd y rhain, i raddau helaeth, yn gyfarwydd i chi. Os ydych chi'n symud planhigion o fewn Prydain Fawr, neu’n newydd i fewnforio/allforio, bydd gweithgareddau newydd ar eich cyfer ond mae llawer o gyngor ar gael. Eich pwynt galwad cyntaf ddylai fod eich Arolygydd Iechyd Planhigion a Hadau APHA.

Bydd y rheoliadau yn cynyddu bioddiogelwch ac amddiffyniad rhag plâu a chlefydau planhigion. Mae angen i fusnesau sy'n gwerthu planhigion a chynhyrchion planhigion fod yn ymwybodol o’r rheoliadau hyn, ac os yw'n berthnasol iddyn nhw, weithredu arnynt. Mae'n hanfodol, pan fo busnes yn ymwneud â mewnforio neu allforio, masnach busnes-i-fusnes, masnach ar-lein a gwerthu pellter (gan gynnwys danfoniadau cartref), eu bod yn deall y rheoliadau. Bydd angen i chi chwilio am y diweddariadau diweddaraf drwy Borth Gwybodaeth Iechyd Planhigion y DU https://planthealthportal.defra.gov.uk/

Yr wybodaeth ddiweddaraf am fewnforio planhigion sydd â risg uchel o ran Xylella fastidiosa- deddfwriaeth (Mawrth 2021)