Download the Toolkit: How to gain Planning Permission - Welsh.pdf

Gall materion cynllunio fod yn gymhleth ac yn rhwystredig, ond mae llawer o fentrau garddwriaethol yn llwyddo i gael caniatâd ar gyfer yr adeiladau a'r twneli polythen sydd eu hangen arnynt. Y peth pwysig yw cael y dechrau iawn.

 

A allaf roi twnnel polythen neu strwythur hanfodol arall?

Gall llawer o CSA a busnesau garddwriaethol ddim goroesi heb rai adeiladau, p'un ai fel lloches i wirfoddolwyr a gweithwyr, i storio a phacio cynnyrch, neu i egino a thyfu planhigion. Mae’r adeiladau hyn yn hanfodol i’r busnes ac yn ‘rhesymol angenrheidiol’ at ddibenion amaethyddiaeth. Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd angen caniatâd cynllunio arnynt, yn enwedig os ydych chi'n gweithredu ar fferm o dan 5 hectar (12 erw), gan nad oes gan ffermwyr unrhyw hawliau datblygu a ganiateir i adeiladu strwythurau newydd ar y ffermydd hyn. I fod yn gymwys ar gyfer yr hawliau datblygu hyn a ganiateir, mae angen i chi hefyd fod yn fenter ffermio sy'n bodoli eisoes, a all fod yn anodd ei brofi os ydych newydd gychwyn.

 

Gall materion cynllunio fod yn gymhleth ac yn rhwystredig, ond mae llawer o fentrau garddwriaethol yn llwyddo i gael caniatâd ar gyfer yr adeiladau a'r twneli polythen sydd eu hangen arnynt. Y peth pwysig yw cael y dechrau iawn. Peidiwch byth â buddsoddi arian nac amser mewn tir, na dechrau datblygu, cyn siarad â'r awdurdod cynllunio lleol perthnasol ynglŷn â chaniatâd cynllunio. Wrth wneud cais am ganiatâd cynllunio, mae'n bwysig cyflwyno achos bod y strwythur yn hanfodol ar gyfer y busnes a pham rydych ei angen.

 

Mae pob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru yn gweithredu proses ymholiadau cyn ymgeisio statudol ysgrifenedig. Codir ffi am hyn, ond fe gaiff ei argymell cyn sicrhau tir ar gyfer eich CSA.

 

Mae’r holl ddatblygiadau yn y DU yn cael eu cyfeirio tuag at drefi a dinasoedd. Mae unrhyw gynigion datblygu y tu allan i derfynau anheddau’n cael eu rheoli'n llym. Gan fod y mwyafrif o ffermydd, yn ôl eu natur, y tu allan i ffiniau anheddau, mae strwythurau ar ffermydd yn dderbyniol mewn egwyddor, dim ond pan fo -

 

  • Eu dyluniad, eu graddfa a’u lleoliad yn parchu cymeriad yr ardal gyfagos;
  • Yr adeilad yn hanfodol at ddibenion menter amaethyddol ar y fferm.

 

Beth os ydw i’n codi strwythur heb ganiatâd?  

Mae cael caniatâd cynllunio cyn adeiladu unrhyw beth bob amser yn ddoeth. Fodd bynnag, os codwch adeilad/strwythur heb ganiatâd, ceisiwch helpu swyddogion awdurdod lleol a allai fod wedi cael cais i ymchwilio i gŵyn, bob amser. Os canfyddir bod defnydd neu ddatblygiad yn un sydd heb ei awdurdodi, gofynnir am gais cynllunio yn fwy na thebyg gan yr awdurdod cynllunio lleol a bydd yr ystyriaethau yr un fath â phe bai’n ddefnydd neu’n ddatblygiad ‘arfaethedig’. Efallai yr hoffech ofyn am gyngor gan Tyfu Cymru, Community Land Advisory Service Cymru, neu gael cyngor proffesiynol gan ymgynghorydd cynllunio ar y pwynt hwn.

 

Os ystyrir bod y defnydd neu’r datblygiad yn annerbyniol ‘mewn egwyddor’, gofynnir i’r ffermwr reoleiddio’r sefyllfa neu wynebu rhybudd gorfodi. Gallwch apelio yn erbyn yr hysbysiad i’r Arolygiaeth Gynllunio ond mae'r hysbysiad gorfodi yn aros ar y tir. Fe'i cyflwynir i berchennog y tir, mae hyn yn golygu y gallech fod yn torri unrhyw gytundeb prydlesu yr ydych wedi ymrwymo iddo. Cydweithredwch gymaint â phosibl a rheoleiddiwch y sefyllfa cyn gynted â phosibl fel nad oes angen rhybudd gorfodi.

 

Am fwy o gwybodaeth ar cael Caniatâd Cynllunio lawrlwythwch ein pecyn cymorth: Cael Caniatâd Cynllunio: Cyngor i dyfwyr bwyd ac Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned (Cymru yn unig)



Related Pages


Webinar: CSAs in Wales: Good Governance Workshop

Investigating legal forms, organisational types – is the one you have right for you? An ‘All you need to know overview for Wales’ with Gary Mitchell, Joint Wales Manager Social Farm & Gardens.

18/02/2022 14:22:40

Gaining Planning Permission: Advice for food growers and CSAs (Wales Only)

Planning issues can be complex and frustrating, but many horticultural enterprises do succeed in getting permission for the buildings and polytunnels they need. The important thing is to start right.

10/08/2021 13:27:51

Webinar: Community Supported Agriculture: Knowing your Vision, Values and Purpose

Whether you’re looking to set up a Community Supported Agriculture (CSA) project or other Growing-related Social Enterprise, or maybe the idea of setting up a group or social business is still a while away, this workshop will give you a better unders…

16/07/2021 10:40:04

How to Write a Business Plan for Community Support Agriculture (CSA) Projects

The business plan is a formal statement setting out the aims and objectives of your business. It assesses whether they are achievable and what your plans are for reaching them. It should also include some brief information about the organisation and…

26/05/2021 16:11:59