Download the Toolkit: TC report on plant health resources - Feb 2021 - Welsh[1].pdf

Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio ffynonellau adnoddau, sydd ar gael arlein yn awr, i godi ymwybyddiaeth o iechyd planhigion a hyfforddiant yn y maes pwnc hwnnw. Nid yw hwn yn gasgliad cyflawn ond mae’n cynnig blas o’r wybodaeth sydd ar gael.

Mae’r adnoddau’n cynnwys gwybodaeth ar amrywiaeth o lefelau o ddechreuwyr i arbenigwyr ar gyfer gwyddonwyr a thyfwyr. Daw rhai o’r adnoddau o’r DU ac mae eraill yn rhyngwladol ac mae’n bosibl na fydd y rhain yn gwbl berthnasol i’r DU a bydd angen esboniad pellach pan gânt eu defnyddio.

Mae adnoddau wedi’u cynnwys yn yr adroddiad i helpu â dewisiadau o ran gyrfa a datblygiad mewn iechyd planhigion.

Dim ond ffynonellau gwybodaeth sydd wedi’u hanelu’n benodol at addysg a hyfforddiant sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Ceir ffynonellau gwybodaeth eraill ar faterion iechyd planhigion cyfredol ar Hwb Gwybodaeth Tyfu Cymru.