Download the Toolkit: Tyfu Cymru - Do I need Planning Permission WELSH.pdf

Lawrlwythwch: A oes angen Caniatâd Cynllunio arnaf? Cyngor i dyfwyr bwyd (Cymru’n unig)

Bydd yr angen i gyflwyno cais cynllunio am y gwaith yr hoffech ei wneud gan ddibynnu yn y lle cyntaf a yw’r gwaith yn cyfrif fel ‘datblygiad’ ac yna’n ail, a yw’r gwaith mewn dosbarth o ‘ddatblygu a ganiateir’ sy’n golygu bod caniatad cynllunio’n cael ei roi’n awtomatig fel na fydd angen gwneud cais cynllunio ffurfiol.

Diffinnir datblygiad o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 fel "the carrying out of building, engineering, mining or other operation in, on, over or under land, or the making of any material change in the use of any building or other land."

Y man cychwyn yw tybio bod angen cyflwyno cais cynllunio i’r awdurdod lleol ar gyfer pob adeilad a gweithrediad peirianyddol.

Mae cynnwys y daflen ffeithiau hon wedi’i fwriadu fel gwybodaeth gyffredinol yn unig ac ni ddylid dibynnu arni yn ar draul cyngor cynllunio gan eich awdurdod cynllunio lleol perthnasol(1). Dylech ymgynghori bob amser eich adran gynllunio leol i ganfod a oes angen caniat.d cynllunio ar eich cynllun cyn i chi ddechrau ar unrhyw waith.

Datblygwyd y daflen ffeithiau hon gan Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol trwy brosiect Tyfu Cymru.

Mae FfFfDGC yn elusen ledled y DU sy'n cefnogi cymunedau i ffermio, garddio a thyfu gyda'i gilydd. Mae Lucie Taylor yn gynllunydd tref siartredig o 20 mlynedd ac yn gweithio i Ffermydd Cymdeithasol a Gerddi am y 7 mlynedd diwethaf.

1 Cewch fanylion eich awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru yma - https://llyw.cymru/dod-o-hyd-ichawdurdod- cynllunio-lleol