Safle arbrofol yw perllan Helios lle mae nifer fawr o fathau o goed a systemau yn cael eu treialu i gael yr ansawdd a’r cnwd gorau posibl o’r ffrwythau, yn bennaf afalau pwdin. Mae’r perllannau hyn yn cynnwys coed dwys iawn ynghyd â nifer o arddulliau hyfforddi coed arbrofol. Yn ogystal, roedd ychydig o goed seidr arweinydd canolog (“centre leader”) mwy o faint.

Arddangoswyd y dewisiadau offer tocio, o lifiau poced plygu â llafnau tafladwy miniog iawn i lifiau plygu mwy o faint, a llifiau polyn â llafnau Siapaneaidd yn bennaf, siswrn tocio llaw a gedwir orau mewn gwain lledr, a thocwyr trydan â phecyn batri ysgrepan, sy’n ysgafn ac sydd â bywyd 8 i 10 awr a oedd yn lleihau blinder wrth eu defnyddio drwy’r dydd ac a oedd yn galluogi tocio llawer cyflymach ar ganghennau eithaf trwchus heb fawr o ymdrech. Er iddynt gostio £1000 a mwy, byddai’n bosibl adennill y gost yn gyflym mewn perllannau mwy o faint ac roedd y ffaith eu bod yn gyflymach yn golygu bod tocio manylach yn bosibl.

Yn debyg i lawer o dasgau, mae offer da yn allweddol i wneud y gwaith yn iawn ac i symud o goeden i goeden yn gyflym. Nid yw’n faes arbed arian.

O ran amseru’r tocio, yn aml nid y gaeaf yw’r amser gorau gan ei bod yn anodd amcangyfrif lefelau blagur y ffrwythau a maint y cnwd yr adeg honno o’r flwyddyn. Yn aml, cyfleustra a’r defnydd o lafur yn unig sy’n arwain at docio yn y gaeaf.

  • O ran rheoli clefydau, mae cancr ffwngaidd yn broblem fawr mewn perllannau yn y gorllewin, yn enwedig yng Nghymru lle ceir llawer o law. Telir sylw i’r rhagolygon tywydd gan y byddai cyfnod o dywydd sych am o leiaf 24 awr ar ôl tocio yn lleihau’n fawr y tebygolrwydd o sborau cancr yn glanio ac yn egino ar y toriadau newydd. Bellach nid oes unrhyw baent docio gymeradwy felly mae tywydd sych yn ffactor allweddol.

Mewn ardal arall sy’n gweld llawer o law, Seland Newydd, gwelwyd bod 4 mlynedd o dreialon gyda ffwngleiddiaid, bwydo a defnydd tonigau wedi arwain at reolaeth gyfyngedig iawn. Mae hylendid y berllan yn bwysig ac mae cancrau sy’n cael eu tocio allan yn dal i fod yn heintus felly mae’n werth eu cludo o’r berllan. Pe bai’r cancrau hyn yn cael eu gadael ar lawr y berllan, byddant yn ffurfio sborau am dros 40 awr ar ôl i law ddisgyn.

Mewn systemau organig gall yr archwiliad gyfarwyddo gadael y darnau sydd wedi’u tocio yn y berllan ond yn ddelfrydol ceir rhanddirymiad i gael gwared arnynt oherwydd y risg. Wythnosau sych yr haf yw’r amser gorau i docio perllannau organig. Mae wedi’i nodi bod cancr yn symud o’r gorllewin i’r dwyrain yn y perllannau gyda’r prifwyntoedd gorllewinol sy’n dod â glaw.

Mae tocio mecanyddol gyda pheiriannau sy’n debyg i dorwyr gwrychoedd yn ddull cyflym ond mae’n cyfyngu’n fawr ar ddatblygiad y coed yn y dyfodol ar ôl y flwyddyn gyntaf oherwydd i wrych gael ei greu sy’n cwtogi’n fawr ar faint o olau sy’n cyrraedd y coed. Mae llai o olau yn arwain at lai o siwgrau i ddatblygu’r ffrwythau a’r coed.

O ran amseru, ni ddylid byth tocio ffrwythau cerrig pan nad oes dail ar y coed ac yn ddelfrydol dylid tocio pan ellir asesu lefelau’r cnydau a defnyddio’r tocio i deneuo neu ddal gafael ar y cnwd yn ddibynnol ar y set. Mae ffrwythau cerrig yn dueddol o ddioddef o gancr bacteriol, eto o ganlyniad tywydd gwlyb, felly mae’n bwysig tocio pan fydd y tywydd yn sych.

Yn achos afalau, bydd tocio’r ceinciau cyn y diwrnod hiraf yn ysgogi blagur ffrwythau a bydd tocio ar ôl y diwrnod hiraf yn datblygu twf llysieuol, felly erbyn diwedd Gorffennaf nid yw’n bosibl trawsnewid blagur llysieuol i flagur ffrwythau. Mae’r blodau i gyd, ac eithrio’r paill, yn cael eu cychwyn yr haf blaenorol ac ni fydd tocio’n hwyrach yn cynyddu nifer y blodau.

Mae nifer o goed, yn enwedig rhai seidr, yn dueddol o droi’n eilflwydd fel y byddant yn cynhyrchu cnwd sylweddol un flwyddyn ac ychydig iawn y tymor canlynol. Yn yr achos hwn, bydd tocio’n galed yn y flwyddyn sy’n dwyn ffrwythau yn helpu i leihau’r llwyth cnydau a chychwyn blagur blodau ond mae’n rhaid ei wneud cyn y diwrnod hiraf.

Mae afalau’n dwyn ffrwyth orau ar bren 2-3 blwydd oed felly mae angen system o adnewyddu. Caiff hyn ei gyflawni orau ar system arweinydd canolog. Os caiff cangen allweddol ei thynnu oherwydd ei hoed, ceir bonyn byr 3-4cm yn weddill a elwir yn doriad Iseldiraidd neu beg hetiau gan y bydd hyn yn ysgogi cangen newydd i ddatblygu o’r tano gan sicrhau bod cangen ongl lydan yn datblygu. Ni fydd hyn yn digwydd os yw’r gangen yn cael ei thorri’n gyfwyneb â’r boncyff.

Mae rhai mathau modern yn rhagaeddfed iawn a byddant yn dwyn ffrwyth ar bren 1 flwydd oed.

Mae’r math o goed i’w prynu yn cynnwys coed chwip, coed morwyn a choed “Knip”. Caiff y math olaf eu ffafrio ar berllannau dwysedd uchel modern gan eu bod yn dechrau cynhyrchu’n gynnar sy’n golygu adenillion cynnar ar fuddsoddiad. Mae’r coed yn ddrutach am eu bod yn treulio mwy o amser yn y lluosogwyr ond maent yn arbed blwyddyn neu fwy yng nghynhyrchiant y berllan.

Mewn coeden knip, caiff gwreiddgyff ei impio ar y fainc a’i blannu allan flwyddyn yn ddiweddarach fel chwip ysgafn. Ym mlwyddyn dau, caiff y goeden ei thorri ar lefel y pen-glin fel y bydd yn cynhyrchu plu neu ganghennau ochr tua 1m o lefel y ddaear, yn ddelfrydol sidell o 4 neu 5 pluen fesul coeden gydag onglau gwastad i’r boncyff. Bydd canghennau ar ongl unionsyth yn torri allan pan yn drwm gyda chnwd. Caiff plu eraill eu byrhau i 35-45cm wrth blannu, roedd y rhain yn arfer cael eu clymu ond roedd yn llawer o waith ac mae’r goeden knip yn datrys y broblem hon i raddau helaeth. Dim ond dwy sidell effeithiol o ganghennau fydd gan bob coeden ar uchder sydd rhwng y pen-glin a’r glun, ac ar uchder y frest bydd blagur yn blaguro ar hyd y boncyff. Darperir maint y pren sy’n dwyn ffrwyth gan ddwysedd uchel tua 1700 o goed/ha, gyda bywyd perllan o tua 12 mlynedd a chaiff y costau eu hadennill ym mlwyddyn 4, a chaiff cnydau uchel iawn o ffrwythau o’r safon uchaf eu cynhyrchu sy’n rhatach i’w pigo.

Mae hyn yn cymharu â pherllan seidr lle gall y bywyd bara am 30 -40 mlynedd.

Caiff coed mewn perllannau dwys eu clymu i stanc gradd rhif 5, 2.4m neu 8 troedfedd o hyd, sydd wedi’i drin â chreosot o dan bwysau. Ceir lwfans arbennig ar gyfer hyn mewn coed ffrwythau. Yn aml maent yn cael eu himpio ar wreiddgyff M1X sydd bob amser yn gofyn am stanc, mae perllannau llai dwys yn aml yn defnyddio 106 neu 116, gyda’r olaf yn well mewn priddoedd gwlypach ac nid oes angen eu stancio fel arfer.

Wrth edrych ar docio coeden, ystyriwch y posibilrwydd o wneud un toriad, er enghraifft yn achos coeden arweinydd canolog gyda llawer o dyfiant ar y brig daw’r brig cyfan allan mewn un toriad, fel arfer i flaguryn eithaf gwan a ddaw yn arweinydd. Hefyd, tynnwch y canghennau sydd ar ongl serth neu sy’n fertigol, mae llawer o waith snipio gyda siswrn tocio yn araf, drud a diangen.

Torrwch allan cancr, yn ddelfrydol y tu hwnt i unrhyw staenio brown ar y bonyn sy’n weddill. Fel y soniwyd eisoes, cludwch y cancr o’r berllan. Os yw cancr wedi sychu ac yn iacháu drosto, nid yw’n weithredol bellach a gellir ei adael.

Trefnwch y canghennau fel bod pob un yn derbyn y golau mwyaf posibl er mwyn i’r ffrwythau a ffurfiad y blagur fod yn dda.



Related Pages


Webinar: Introduction to Agricultural Standards for Commercial Horticulture Production

This introductory webinar will be an overview of what an agricultural standard is, the main standards in the UK (Red Tractor, M&S Select Farm, LEAF, Soil Association etc) and will cover GlobalG.A.P for those that may want to export. It will give grow…

25/01/2021 15:27:33

Notes from Pruning Workshop Helios Orchard, Pool Hill Newent

Notes from Pruning Workshop Helios Orchard, Pool Hill Newent - Jan 2020. Training delivered by Nick Dunn Frank Matthews Tenbury Wells

27/07/2020 16:38:44

Welsh Fruit and Vegetable Production - Baseline Study

This baseline study for Tyfu Cymru was conducted by Dr. Amber Wheeler and looks at the opportunities for Welsh Fruit and Vegetable production.

26/06/2020 16:05:34

Organic market insight

The Soil Association published their 2017 Organic Market report earlier this year, revealing that sales growth in the organic food and drink sector had grown for the 5th consecutive year, posting a 7.1% growth with sales reaching £2.1 billion.

16/12/2019 13:37:05