Yn y cyflwyniad hwn mae Prif Swyddog Iechyd Planhigion y DU yn disgrifio pwysigrwydd cynnal bioddiogelwch i rwystro lledaeniad plâu ac afiechydon newydd ac mewn diogelu ein diwydiant. Mae llawer o ddeddfwriaeth ar fin newid, ac mae angen i dyfwyr fod yn ymwybodol o’r gofynion am basbortau planhigion a thystysgrifau ffytoiechydol mewn perthynas â mewnforio ac allforio planhigion. Mae hon yn sesiwn bwysig iawn ac yn gyfle i glywed am bolisi’r llywodraeth gan Brif Swyddog Iechyd Planhigion y DU


Mae Iechyd Planhigion yn faes sydd wedi cael ei ddatganoli i Gymru. Mae Martin Williams yn rhoi’r ddeddfwriaeth bioddiogelwch mewn cyd-destun Cymreig. Mae hefyd yn disgrifio rhai o’r problemau penodol sy’n wynebu Cymru o ran plâu ac afiechydon planhigion a sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i'r afael â nhw. Mae’r cyflwyniad hwn yn bwysig i dyfwyr sy’n gweithio yng Nghymru.