Gyda’r rhan fwyaf o boinsetias yn y blynyddoedd diwethaf yn cael eu mewnforio i’r DU o’r Iseldiroedd, mae’n wych gweld un o’n meithrinfeydd o safon yng Nghymru yn darganfod cyfle i gynhyrchu poinsetias gartref a’u gwerthu i’r farchnad Gymreig, gan gadw’r gadwyn gyflenwi yn fyr a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.

Mae Meithrinfeydd Parc Bute, sydd wedi’u lleoli llai na milltir o ganol dinas Caerdydd, wedi bod yn cynhyrchu Poinsetias i’w gwerthu i’r cyhoedd ac ar gyfer y farchnad gyfanwerthu ers 10 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r gwaith cynhyrchu wedi cynyddu o gwpl o gannoedd i sawl mil o blanhigion eleni, a’r cyfan mewn amrywiaeth o liwiau. Tyfir planhigion mewn tai gwydr wedi’u cynhesu ar y safle. Maent wedi’u gosod mewn potiau 13cm gyda gwrtaith rhyddhau rheoledig i gadw’r planhigion mewn bwyd am gyfnod hirach. Dosberthir y planhigion gan fan drydanol i ganolfannau garddio lleol a thrwy gadw’r gadwyn gyflenwi yn fyr, mae costau’n parhau’n gystadleuol. Mae’r feithrinfa hefyd yn tyfu Metis Cyclamen mawr mewn potiau 13cm.

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb, cysylltwch â Chay Saunders – Goruchwyliwr y Feithrinfa https://bute-park.com/plant-shop/