Honeybrook

Yn dychwelyd i Farchnad y Tyfwyr eleni mae Mercedes a’i thîm i werthu amrywiaeth o hadau, gwely haf, basgedi crog a llwyni, sy’n cael eu tyfu’n bennaf yn eu canolfan ger Llandrindod. Gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio i ddal ei harddangosiad am sut i greu Basged Grog hardd!

https://www.facebook.com/honeybrooknantmel/

@honeybrook_nantmel

West Wales Willows

Bydd West Wales Willows yn arddangos rhai o’u 260 o fathau o Salix (Helyg), yn siarad am eu defnydd, ac yn dangos sut i wau cynhaliwr planhigion bach. Lle gwych i ddysgu ac i brynu rhai coed helyg wedi’u potio, neu fasgedi.

https://www.facebook.com/WestWalesWIllows/#

@westwaleswillows

P&J Plants

Dewch i weld P&J Plants am lawer o wybodaeth ymarferol o ran planhigion Cigysol. Bydd detholiad o Sarracena, trapiau pryfed Fenws, Gwlithlysiau a Thafod y Gors. Dewch o hyd i blanhigion aeddfed, rhai wedi’u potio a rhai wedi’u labelu – popeth i helpu’r cwsmer pan fyddan nhw’n mynd â phlanhigyn newydd adref!

https://www.facebook.com/pages/category/Garden-Center/P-j-plants-141749999332434/

Welsh Lavender

Yn y bryniau sy’n amgylchynu Maes y Sioe mae Welsh Lavender, sy’n enwog am droi planhigion lafant hyfryd yn gynhyrchion sydd hyd yn oed yn fwy anhygoel. Eleni, bydd Nancy a’i thîm yn ymuno â Marchnad y Tyfwyr gyda’u hamrywiaeth o hufenau a balmau lafant gogoneddus a’u cyfoeth o wybodaeth am lafant. Gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio, rhowch gynnig ar ychydig o hufen llaw, a dysgwch sut i dyfu lafant 1,000 o droedfeddi uwchben lefel y môr.

https://www.facebook.com/farmerswelshlavender

@welshlavender

Incredible Edible Llandrindod

Mae gwaith a lleiniau tyfu Incredible Edible yn atyniadau bwytadwy sy’n gwneud i bobl siarad. Maen nhw’n dangos sut y gall pobl drawsnewid lleiniau o dir yn ffynonellau helaeth o fwyd iach. Bydd yr Incredible Edible lleol (Llandrindod) yn llenwi eu stondin gyda pherlysiau wedi’u potio a phlanhigion plwg i chi ddod i’w mwynhau (Croesewir ac anogir rhoddion). Dysgwch am eu prosiect, eu cynnydd hyd yma a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

https://www.facebook.com/groups/557166144835402/

@incredibeledibleuk

NPTC

Os ydych chi’n ddarpar fyfyriwr, neu os oes gennych ddiddordeb mewn garddwriaeth, dewch i ddysgu am y datblygiadau cyffrous yn yr Adran Garddwriaeth ar draws colegau Castell-nedd, Aberhonddu a’r Drenewydd a’r cyfleoedd mewn gyrfaoedd garddwriaethol. Tra byddwch chi ar y stondin, edrychwch ar rai o’r planhigion sydd ar werth – wedi’u tyfu gan fyfyrwyr NPTC!

https://www.facebook.com/NPTCHorticulture/

@nptc_horticulture

Seikatsu Bonsai School

Ewch i’r stondin unigryw hon i weld amrywiaeth o bonsái dan do ac awyr agored mewn gwahanol gamau datblygu, a bydd pob un ohonynt ar gael i’w prynu. Siaradwch â Darren am yr hyfforddiant Bonsái y mae’n ei ddarparu ym Mhowys, a chlybiau Bonsái ledled y wlad. Gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio unrhyw adeg yn ystod y penwythnos wrth iddo weithio ar Steilio Bonsái o flaen eich llygaid.

https://www.facebook.com/seikatsubonsaischool/

@seikatsubonsaischool

Flowers From the Farm

Galwch heibio i weld yr arddangosfa hyfryd sy’n cynnwys blodau tymhorol Prydeinig, gan roi’r cyfle i chi brynu tusŵau hardd. Dysgwch beth yw Blodau O’r Fferm, a beth maen nhw’n anelu ei wneud ledled Cymru, a thu hwnt. Arhoswch ar gyfer eu sesiynau arddangos gwych, lle gallwch ddysgu sut i wneud eich coron flodau neu dwll botwm eich hun!

https://www.facebook.com/flowersfromthefarmpublic/

@flowersfromthefarm

Pheasant Acre

Mae Pheasant Acre Plants yn fusnes teuluol sy’n gweithredu ger Pen-y-bont ar Ogwr yn ne Cymru, sy’n arbenigo mewn cyflenwi cormau Gladioli, cloron Dahlias, plygiau a phlanhigion a bylbiau ar gyfer pob tymor. Maen nhw wedi derbyn Gwobrau Medal Aur am eu cynnyrch mewn sioeau blodau RHS a rhanbarthol blaenllaw, gan gynnwys Sioe Flodau RHS Chelsea.

https://www.facebook.com/pheasantacre/

@pheasantacreplants

Tech Tyfu

A oes gennych chi ddiddordeb mewn Ffermio Fertigol? Wel, edrychwch ddim pellach na’r Prosiect Tech Tyfu anhygoel. Mae disgwyl y bydd ei dechnoleg yn dod yn fwyfwy pwysig wrth gynhyrchu bwyd yn y dyfodol. Dysgwch sut maen nhw’n archwilio’r potensial ar gyfer amaethyddiaeth amgylchedd rheoledig yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer bwydydd ffres ledled gogledd Cymru.

https://www.facebook.com/techtyfu/

@techtyfu

Flowers From No 6

Yn ymuno â ni fydd busnes lleol gwych arall ym maes garddwriaeth – Flowers From No. 6. Siop flodau yng nghanol Llanfair-ym-Muallt yw Flowers From No. 6, sy’n cynnig blodau hardd, planhigion tŷ, potiau ac anrhegion eraill yn seiliedig ar flodau. Siaradwch â Vicki am ei blodau cartref tymhorol a’r blodau lleol sydd ar gael o fis Mai i fis Hydref.

https://www.facebook.com/Flowersfromno6/

@flowersfromno6