Cynllun Datblygu Garddwriaeth:

Mae sector garddwriaeth fywiog yn uchel ar agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu diwydiant amaethyddol cynaliadwy wrth iddo sicrhau ystod o fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Bydd cymorth yn anelu at gyflwyno materion allweddol, fel, datblygu cynaliadwy, hyfforddiant, gwella perfformiad busnes ac effeithlonrwydd, yn ogystal â gwella ansawdd ac enw da cynnyrch Cymreig yn gyson.

Mae'r cynllun Datblygu Garddwriaeth yn gynllun grant Cyfalaf sydd ar gael i gynhyrchwyr garddwriaethol masnachol presennol ledled Cymru. Nod y cynllun yw:

  • Cynorthwyo cynhyrchwyr garddwriaethol masnachol presennol i ddatblygu eu busnesau drwy fuddsoddi mewn cyfarpar a thechnoleg newydd sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy i'r busnes garddwriaethol.
  • Galluogi busnesau garddwriaethol i ehangu cynhyrchiant yn gynaliadwy, arallgyfeirio i dyfu cnydau newydd, gwella effeithlonrwydd cynhyrchu a gwella ansawdd y cynnyrch.
  • Galluogi cynhyrchwyr garddwriaethol i fynd i farchnadoedd newydd. Cynyddu cyflogaeth leol a chefnogi'r economi wledig fel rhan o'r adferiad gwyrdd o Covid-19.

 

Agorodd y cynllun Datblygu Garddwriaeth cyntaf i gynhyrchwyr garddwriaethol presennol yn Ebrill 2022. Y dyddiad agor ar gyfer y ffenestr ymgeisio nesaf yw 5 Rhagfyr 2022 a bydd yn cau ar 10 Mawrth 2023. Gweler: https://llyw.cymru/cynlluniau-gwledig-dyddiadau-ymgeisio


Gweler isod y ddolen i’r ddogfen Canllawiau Datblygu Garddwriaeth:

https://www.llyw.cymru/cynllun-datblygu-garddwriaeth-ffenestr-2-llyfryn-rheolau-cyffredinol

Rydym yn argymell cofrestru ar gyfer cylchlythyr GWLAD am ddiweddariadau.

Gweld y rhestr lawn o gynlluniau sydd ar ddod