COVID-19: Gwybodaeth Ddiweddaraf ar gyfer Tyfwr Garddwriaethol Masnachol Cymru

Diweddariad - 18 Mai 2020

Dyma’r adnoddau sydd ar gael gan HTA i helpu canolfannau garddio a meithrinfeydd i sicrhau diogelwch gweithwyr a chwsmeriaid, gan gynnwys canllawiau gweithio/masnachu yn ddiogel, asesiadau risg ac arwyddion y gallwch eu llwytho i lawr: https://hta.org.uk/coronavirus-latest-information-and-advice/garden-centre-reopening.html

 

Cyngor AHDB i fusnesau ffermio ar gadw pellter cymdeithasol https://ahdb.org.uk/coronavirus/social-distancing-farm-businesses

AHDB COVID19  - tudalen adnoddau a chyngor i ffermwyr a thyfwyr https://ahdb.org.uk/coronavirus

 

Lantra Cymru Yn ystod pandemig COVID-19, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud yn siŵr bod busnesau tir a gwledig allweddol – gan gynnwys ffermydd a busnesau â dyletswyddau lles anifeiliaid – yn gallu cael gafael ar weithwyr allweddol a pharhau i weithredu.  I fodloni'r angen hwn, mae Lantra wedi creu gwasanaeth paru sgiliau a fydd yn cysylltu busnesau â darpar weithwyr sy'n meddu ar y sgiliau a'r profiad perthnasol. 

Saesneg https://www.wales.lantra.co.uk/skills-matching-service-0

Cymraeg https://www.wales.lantra.co.uk/cy/gwasanaeth-paru-sgiliau

 

Dymuno gweithio ar fferm Ffrwythau a Llysiau yn y DU? Casglwyr, pacwyr, hwsmonaeth planhigion, gyrwyr tractor neu wagen fforch godi – mae llond gwlad o wahanol rolau ar gael. 

Mae Pick for Britain yn helpu i gyfuno gweithwyr a chyflogwyr, ac yn gwneud yn siŵr bod y DU yn gallu parhau i gyflenwi ffrwythau a llysiau Prydeinig o'r ansawdd uchaf i bawb eu mwynhau. Yma fe allwch chi ddod o hyd i dyfwyr, recriwtwyr ac asiantaethau sy'n cynnig cyfleoedd gwaith ledled y wlad.  https://pickforbritain.org.uk/

 

Mewn ymateb i COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bron i £2bn o gymorth i fusnesau yng Nghymru, a hynny ar ben y cymorth mae Llywodraeth y DU wedi'i ddarparu. Mae'r wefan wedi cael ei chreu i weithredu fel canolbwynt i'r cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i fusnesau yng Nghymru.

Busnes Cymru

Mae ACAS yn cynnig cyngor diduedd a di-dâl i weithwyr a chyflogwyr ar hawliau, rheolau a'r ymarfer gorau yn y gweithle, gan gynnwys adnoddau ymarferol i roi cymorth i gyflogwr a gweithwyr gyda'r prosesau newydd yn y gweithle yn sgil Covid.  

ACAS

Horticultutral Trades Association - Mae'r HTA wedi bod yn hyrwyddo buddiannau ei aelodau a'r diwydiant yn gyffredinol am dros 100 o flynyddoedd. Mae amrywiaeth gynhwysfawr a chost-effeithiol o fentrau datblygu a chymorth i fusnesau ar gael i aelodau unigol. 

HTA

Agriculture and Food development Authority (Iwerddon) - COVID-19: Gwybodaeth a chyngor i gynhyrchwyr garddwriaethol – canllawiau ac adnoddau defnyddiol sy'n ymwneud â busnesau garddwriaethol

TEAGASC

 

Mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod unrhyw bryderon sydd gennych chi ar hyn o bryd: tyfucymru@lantra.co.uk