Mae Tyfu Cymru yn parhau i fonitro’r sefyllfa o ran y Coronafeirws (COVID-19) a’r effaith ar fusnesau garddwriaeth yng Nghymru. 

Yn dilyn cyngor gan y llywodraeth, rydym yn gohirio un i lawer o ddigwyddiadau hyfforddi a oedd wedi’u trefnu ar gyfer mis Ebrill a mis Mai 2020.  Gan fod y sefyllfa hon yn newid o hyd, byddwn wrth gwrs yn monitro’r cyngor, yn adolygu’r sefyllfa ac yn cadw mewn cysylltiad â chi.

Ein bwriad yw parhau i ddarparu hyfforddiant dros y ffôn/ skype/ gweminarau/ gwefannau lle bo hyn yn bosibl – yn enwedig lle rydym yn cynnig hyfforddiant un i un.  Byddwn hefyd yn ystyried lanlwytho dogfennau, pecynnau cymorth ac ati i’n gwefan a byddwn yn cysylltu’n gyson â thyfwyr Cymru, gan roi cynlluniau ar waith i’ch cefnogi chi dros yr ychydig fisoedd nesaf. 

Os ydych chi wedi archebu i fynd i ddigwyddiad drwy Eventbrite ym mis Ebrill a mis Mai, byddwch yn cael rhybudd bod y digwyddiadau hyn wedi cael eu gohirio.  Byddwn yn trosglwyddo eich archeb i ddyddiad newydd unwaith y byddwn yn gallu dechrau darparu’r hyfforddiant wyneb yn wyneb unwaith eto.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r tîm e-bost i tyfucymru@lantra.co.uk