shrubs-g29d644fa5_1920.jpg

This event has passed

A yw'r llywodraethau sy'n plannu coed yn cynnig cyfle i stoc a dyfir yn y DU?

Ymunwch â Tyfu Cymru ar gyfer ymweliad astudio, sydd wedi'i hariannu'n llawn, â Wyevale Nurseries i ddysgu rhagor am eu coed a’u perthi.

Meithrinfa Cyfanwerthu yw Wyevale, sy'n cynhyrchu 31 hectar o lwyni a pherlysiau cynhwysydd, 182 hectar o goed maes a chynhwysydd a chan hectar o goedwigaeth a pherthi.
Mae Wyevale yn cyflenwi'r sector manwerthu a'r sector amwynderau a chyda'r galw'n tyfu am goed a pherthi brodorol, mae gwerthiant yn gynyddol gryf.
Mae cynhyrchiad Wyevale (sy'n unigryw yn y DU) yn arwain planhigion o hadau a thoriadau drwodd i Goed Safonol Trwm Ychwanegol.

Amserlen am y dydd

9.30 Cyrraedd. Coffi a chyflwyniad byr
10.00 Taith o'r prif gyfleuster llwyni. Gan gynnwys cyfleuster lluosogi. Yma cawn weld lluosogi toriadau a hadau. Planhigion Ifanc, 2 litr, 3 litr 5 litr, cynhyrchu 7.5 litr a 20 litr
11.30 Adleoli i gynhyrchu Coed. Yma fe welwn goed wedi egino, coed yn y maes o 175cm hyd at 16-18cm cengl, a choed a dyfir mewn cynhwysydd, maint 8-10 hyd at 16-18cm. Mae cynhyrchu yn y maes hefyd yn cynnwys coed aml-goes a pherthi aeddfed.

13.00 Cinio
14.00 Gadael am ein cyfleuster Trawsblaniad yn Red Marley ger Ledbury
15.00 Cyrraedd Cyfleuster Trawsblaniad yn Red Marley ger Ledbury. Yma cawn weld tyfu perthi, coedwigaeth a thrawsblaniadau ar y maes. Hau hadau a chnydau trawsblanedig
16.00 Gorffen

Bydd staff Wyevale wrth law i ateb unrhyw gwestiynau neu dreulio amser pellach o gwmpas y gwelyau cynhyrchu