corn-1841271_1920.jpg

This event has passed

Fferm deuluol a chymunedol fechan, amrywiol yw Henbant a saif rhwng y mynyddoedd a’r môr yng ngogledd-orllewin Cymru.

Yn Henbant, defnyddir Paramaethu, Rheolaeth Gyfannol a thechnegau ffermio Agroecolegol i gynhyrchu llysiau, cig eidion ac wyau. O’u fferm fechan, adfywiol, mae Matt a Jenny yn cynhyrchu bwyd a thanwydd ar gyfer eu cartref, ymwelwyr, a’r gymuned leol – un o’u nodau craidd yw profi y gall fferm fechan mewn ardal lai ffafriol gynhyrchu bwyd, difeddiannu carbon, bod yn amgylcheddol gynaliadwy a bod yn bleserus i’w rheoli.

Bydd y Daith Fferm/Ymweliad Astudio yn rhoi cyfle i chi weld systemau amaethgoedwigaeth, ieir sy’n pori, gwartheg bîff, a’u gardd farchnad ddibalu. Bydd yr ymweliad yn rhoi cyfle i archwilio system ffermio gymysg holistaidd, a thrwy ddysgu ‘o gyfoed i gyfoed’, yn gyfle i ysgogi syniadau newydd.



Amserlen:

10:30 – Cyrraedd – Lluniaeth wrth gyrraedd

11:00 – Sgwrs

11:30 – Taith Fferm

13:30 – Cinio (Darperir)

14:30 - Gorffen