apple-gc74c8b0f4_1920.jpg

This event has passed

Mae Henbant yn fferm deuluol a chymunedol fechan ond amrywiol rhwng y mynyddoedd a’r môr yng ngogledd-orllewin Cymru. Un o’i nodau craidd yw profi bod fferm fechan mewn ardal lai ffafriol yn gallu cynhyrchu bwyd ac elw ariannol, cymdeithasol ac amgylcheddol; yn gallu atafaelu carbon, a bod yn bleserus i’w rheoli.

Mae Matt a Jenny wedi bod ar eu taith paramaethu ers 2012 ac wedi plannu amrywiaeth o goed ffrwythau fel rhan o’u prosiect amaeth-goedwigaeth. Bydd coed o oedran a maint perffaith yn rhoi cyfle delfrydol i Chris Creed o ADAS ddangos technegau tocio da a phwysigrwydd cynnal arferion tocio da ar gyfer iechyd coed, ansawdd ffrwythau a rhwyddineb y cynhaeaf. 

Bydd yn siarad trwy docio coed ifanc i sefydlu fframweithiau cywir a bydd hefyd yn trafod gwahanol ddulliau o docio a’r rheswm drosto.

Bydd hefyd yn sôn am blâu coed afalau, afiechydon, ac anhwylderau.

Bydd cyfle am gwestiynau ac atebion fel y gallwch fod yn hollol hyderus gyda thechnegau.