Marketing and selling .png

This event has passed

Clywch yn uniongyrchol gan Chris Harry Thomas o Paviland Farm a Ric Kenwood o Claire Austin Hardy Plants am sut maen nhw wedi sefydlu gwahanol lwybrau i’r farchnad i werthu eu cynnyrch.

Bydd Chris yn siarad am ei fusnes a sut mae wedi sefydlu gwahanol lwybrau i'r farchnad a'r ystyriaethau y mae wedi'u gwneud gyda'i brosiect arallgyfeirio.

Yn ymuno â Chris fydd Ric Kenwood o Claire Austin Hardy Plants, sydd â chyfoeth o wybodaeth am farchnata. Bydd hefyd yn siarad am sut mae'n defnyddio marchnata digidol i hybu gwerthiant yn ystod misoedd sydd fel arfer yn dawelach. 

P'un a yw'n treialu syniad newydd neu'n gwneud newid parhaol i'r busnes, mae arallgyfeirio yn gyfle i fanteisio ar farchnadoedd lleol a chenedlaethol newydd neu bresennol, wrth ddatblygu ffrwd incwm ychwanegol i gefnogi'r model busnes presennol. Datblygu ymgyrch farchnata gref yw'r allwedd i lwyddiant.