a-fleshy-plant-775556_960_720.jpg

This event has passed

Ymunwch â rhwydwaith IPDM Planhigion Addurnol Tyfu Cymru ar gyfer Diwrnod Astudio ym Meithrinfeydd Seiont, cynhyrchydd planhigion ifanc yng Nghaernarfon. Dan arweiniad Ymgynghorwyr ADAS David Talbot ac Andrew Hewson, bydd y cyfarfod yn galluogi mynychwyr i weld a thrafod egwyddorion ac arferion IPDM (Rheoli Plâu a Chlefydau yn Integredig) mewn lleoliad masnachol trwy daith gerdded strwythuredig mewn meithrinfa blanhigion. Bydd y pynciau dan sylw yn cynnwys: monitro cnydau, hylendid meithrinfa a mesurau rheoli diwylliannol, problemau tymhorol / mesurau rheoli (gan gynnwys rheoli smotiau dail ffwngaidd / bacteriol a llwydni blewog), bio-reolaethau a defnyddio cynhyrchion amddiffyn planhigion addas yn amserol. Bydd y diwrnod hefyd yn rhoi cyfle i'r rhai sy'n mynychu rannu profiadau – a llwyddiannau gobeithio (!) - yn yr hyn a fydd, yn ddi-os, yn lleoliad dysgu rhwng cymheiriaid.

Ariennir yr ymweliad astudio hwn gan Tyfu Cymru, a darperir Cinio. Bydd angen i'r mynychwyr ddarparu eu cludiant eu hunain.
Bydd mesurau diogelwch Covid ar waith. Anfonir y manylion llawn at y mynychwyr ar ôl iddyn nhw gofrestru.

Cyfyngir y niferoedd i 15