strawberry-49248_1280.jpg

This event has passed

Bydd Chris Creed (Uwch Ymgynghorydd Garddwriaeth, ADAS) yn edrych ar reoli mefus a mafon yn dymhorol, drwy flodeuo, o sut i gerdded cnydau ac adnabod plâu yn llwyddiannus, defnyddio Bioddiogelwyr a phlaladdwyr confensiynol. Bydd yn sôn am bwysigrwydd bwydo a dyfrio'n rheolaidd, awyru twneli, a sut i ddelio â llosg dail mewn cyfnod tyngedfennol. Bydd cyfle i’r tyfwyr fydd yn cymryd rhan ddysgu o brofiadau blaenorol a gwella gallu’r cnydau hyn i gydio. Bydd y cyfarfod hefyd yn cynnwys adolygiad o ddewisiadau amgen cynaliadwy i fawn ar gyfer tyfu mefus, gan gynnwys adolygiad o ymchwil ddiweddar i swbstradau sy'n seiliedig ar ffibr pren yn y prosiect Horti-blueC dan arweiniad Ewan Gage (ADAS).