workman-3011767_960_720.jpg

This event has passed

Call of the Wild fydd yn arwain yr hyfforddiant Codi a Chario hwn ar-lein
Uchafswm o 8 person ym mhob sesiwn

Mae Hyfforddiant Codi a Chario yn Ofyniad Cyfreithiol. O dan y Rheoliadau Codi a Chario, mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch i sicrhau bod pob gweithiwr wedi'i hyfforddi ac yn gymwys i godi a chario. Dylai pob gweithiwr osgoi codi a chario ac, os na allant, rhaid i chi gymryd camau i leihau'r risg o gael anaf.
Nid yn unig y bydd hyfforddiant codi a chario yn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth gweithwyr o risgiau sy'n gysylltiedig â chodi, bydd cyflogeion yn cydnabod mai eu lles nhw yw'r brif flaenoriaeth, a bydd y cwrs yn arwain at lai o bobl yn cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith oherwydd anaf.

Trosolwg o'r cwrs

Mae'r cwrs 3 awr hwn wedi'i anelu at y rhai sy'n codi a chario yn y gwaith, mae'n cyflwyno dysgwyr i beryglon a risgiau codi a chario a'r rheolaethau sydd ar gael. Mae'r cwrs hwn yn ymdrin ag asesiadau risg codi a chario ac mae'n cynnwys trafod yr holl elfennau ymarferol a’r cyfarpar sydd ar gael yn y gweithle.

Strwythur y cwrs

• Rhesymau dros reoli risgiau codi a chario
• Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch sy'n ymwneud â chodi a chario
• Cyfarpar codi a chario
• Sut y gall egwyddorion codi a chario yn ddiogel gyfrannu at wella iechyd, diogelwch a lles y gweithlu
• Egwyddorion Symud Effeithlon
• Asesiad cyn trosglwyddo/asesiad risg deinamig


Achredu ac asesu’r cwrs

Bydd yr ardystiad yn cael ei achredu gan Qualsafe ar ôl pasio arholiad amlddewis 15 cwestiwn, wedi'i gymryd ar-lein, a'i oruchwylio drwy Zoom.