daff.jpg

This event has passed

Mae Tyfu Cymru wedi trefnu gweithdy i ffermwyr blodau yng Nghymru ddydd Llun 23 Mawrth 2020. Caiff y cwrs hwn ei ariannu’n llwyr a bydd yn cael ei gynnal yn Lantra Cymru, Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys, LD2 3WY. Yr Hyfforddwr ar gyfer y gweithdy hwn yw Liz Anderson sy’n gweithio fel Ymgynghorydd Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu Marchnata i gwmni Flowers from the Farm. Nod y gweithdy hwn yw rhoi’r dulliau, y bachau, y safbwyntiau a’r hyder i dyfwyr lywio eu straeon ac ymgysylltu â’r cyfryngau er mwyn hyrwyddo eu busnesau eu hunain a’r ymgyrch i dyfu blodau i’w torri ym Mhrydain. Bwriad y gweithdy yw cwmpasu’r canlynol: • Pennu eich neges • Pennu eich cynulleidfa • Nodi’r stori a chanfod bachau’r stori • Llywio’r stori • Ysgrifennu datganiad i'r cyfryngau • Cyflwyno eich stori a’ch busnes • Nodi cyfleoedd h.y. cysylltu â dyddiadau allweddol • Pwysigrwydd ffotograffiaeth ar gyfer Cysylltiadau Cyhoeddus Yn dilyn y gweithdy hwn, byddwch chi’n gallu llunio datganiadau cryno, drafftio datganiadau i'r cyfryngau, adrodd eich straeon am ffermio blodau a gweld pa luniau sy’n gwerthu! Amser cyrraedd 10.00 am. Amser gorffen 4.00 pm. Darperir cinio.