Rachel Thomas

Cydlynydd Garddwriaeth

Ymunodd Rachel â thîm Tyfu Cymru ym mis Ionawr 2022 Mae Rachel yn byw yn lleol i’n swyddfa yn Llanelwedd. Mae hi’n byw ac yn gweithio’n rhan amser ar fferm fynydd sydd wedi bod ym meddiant ei theulu ers dros ganrif. Mae hi wedi gweithio yn y diwydiannau amaethyddol a garddwriaethol ers chwe blynedd, gan ddechrau gyda masnachwr amaethyddol yn Rhaeadr Gwy cyn symud i fferm lafant Gymreig. Yn ystod y cyfnod hwn, mae wedi datblygu angerdd am y ddau ddiwydiant, gan ennill llawer o sgiliau defnyddiol y mae hi bellach yn eu defnyddio yn ddyddiol yn eu gwaith fel Cydlynydd Garddwriaeth. Yn fuan ar ôl dechrau ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Harper Adams ar Gwrs Iechyd a Lles Anifeiliaid, penderfynodd Rachel nad oedd y brifysgol yn addas iddi hi, felly roedd hi’n falch iawn o gael y cyfle i weithio i Lantra, yn nhîm Tyfu Cymru.