TyfuCymru - FFTM Member Flowers

#WythnosFlodauPrydain – A yw’r duedd o ‘Dyfu nid Hedfan’ yn cydio?

Mae’r wythnos hon yn ddathliad o bopeth ynglŷn â Blodau Prydain, o flodau toredig, planhigion a deiliach at dyfwyr a’r gwerthwyr blodau annibynnol sy’n gweithio gyda nhw.  Mae Wythnos Flodau Prydain yn saith oed eleni, ar ôl cael ei sefydlu gan Farchnad New Covent Garden er mwyn hyrwyddo’r diwydiant.

Y llynedd, gwelwyd yr hashnod #WythnosFlodauPrydain gan filiynau o bobl ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gyrraedd 12.7 miliwn o bobl ar Trydar a 2.4 miliwn ar Instagram.  Roedd oddeutu 6,500 o bostiadau gan 3,500 o wahanol bobl a oedd yn defnyddio’r hashnod.  Yn ogystal, rhoddodd y wasg sylw i Wythnos Flodau Prydain drwy gyfryngau rhanbarthol, masnachol a chenedlaethol1.

‘Gwnaethom ni greu Wythnos Flodau Prydain i ddangos cefnogaeth i werthwyr blodau a thyfwyr annibynnol er mwyn codi ymwybyddiaeth o safon wych y blodau y gellir eu gweld ym Mhrydain ac er mwyn ysbrydoli pobl i brynu mwy o flodau sydd wedi tyfu gartref’, meddai Alastair Owen, pennaeth cyfathrebu a marchnata ym marchnad New Covent Garden.’

Er mwyn nodi #WythnosFlodauPrydain 2019, y Co-op yw’r ail archfarchnad i arwyddo addewid Planhigion a Blodau yr NFU, gan ymuno ag Aldi er mwyn sicrhau triniaeth deg i’r holl gyflenwyr yn unol â Chôd Ymarfer Cyflenwi Bwydydd i dyfwyr Prydain2.

Dywedodd Llywydd yr NFU, Minette Batters:  “Rydym ni wrth ein boddau fod y Co-op wedi arwyddo addewid sy’n cefnogi ac yn gwarchod tyfwyr Prydain ac yn cydnabod yr ymdrechion y maen nhw yn eu gwneud i gynhyrchu cynnyrch o ansawdd uchel.”

 

Ond sut mae’r diwydiant yn perfformio?

Y llynedd, gwnaethom rannu mewnwelediad ein diwydiant ar y diwydiant marchnad blodau toredig ym Mhrydain: Tyfu nid Hedfan a oedd yn canolbwyntio ar y negeseuon allweddol o adroddiad yr NFU ‘Cefnogi Blodau Prydain’ a lansiwyd yn 2016, ac ar yr ymgyrch #TyfuNidHedfan.  Blwyddyn yn ddiweddarach, rydym yn cael golwg arall ar y farchnad a beth y mae hyn yn ei olygu i dyfwyr Cymru.

Roedd adroddiad Amaeth yn y Deyrnas Unedig 2018 wedi cyfrifo bod blodau toredig yn 2018 â gwerth cynhyrchu o £121m yn erbyn gwerth cyfanswm o £860m (mae’r cyfanswm yn cael ei weithio allan fel:  cynhyrchiant blodau yn y DU a mewnforion blodau toredig llai allforion blodau toredig).  Yn ogystal, darganfuwyd yn 2018 bod 14% o’r blodau a werthwyd yn y DU yn rhai cartref (yn seiliedig ar werth)3.

Mewn cyferbyniad, roedd adroddiad 2016 yr NFU Cefnogi Blodau Prydain4, yn amcangyfrif bod gwerth cynhyrchiant blodau toredig yn y DU yn £82m yn 2015, a oedd yn gyfystyr â 12% o’r blodau a werthwyd yn y DU.  Dengys hyn godiad yn y nifer o flodau toredig o Brydain a werthwyd yn y DU, a ellid fod oherwydd yr ymwybyddiaeth gynyddol gan y defnyddwyr ynghylch effeithiau amgylcheddol blodau sydd wedi cael eu mewnforio –  amcangyfrifir bod y tusw cyffredin ar Ddiwrnod San Ffolant yn teithio 4365 o filltiroedd ac mae ôl-troed carbon blodau sydd wedi cael eu mewnforio oddeutu deg gwaith ôl-troed carbon blodau toredig sydd wedi cael eu tyfu gartref.   Yn union fel gyda bwyd, mae pobl yn gofyn fwyfwy am gynnyrch sydd wedi cael ei dyfu yn lleol.

 

Ciplun o’r farchnad

  • Yn 2018, roedd gan flodau toredig y DU werth cynhyrchu o £121m yn erbyn gwerth cyfanswm o £860m.
  • Yn 2018, roedd 14% o’r blodau a dyfwyd yn y DU yn rhai a oedd wedi cael eu tyfu gartref (yn seiliedig ar werth).
  • Mewn cyferbyniad, roedd adroddiad 2016 yr NFU, Cefnogi Blodau Prydain, a oedd yn amcangyfrif gwerth cynhyrchiant blodau toredig y DU yn 2015 fel £82m, a oedd yn gyfystyr â 12% o’r blodau a werthwyd yn y DU.
  • Yn 2017, roedd mewnforion blodau toredig yn £745m ac roedd cynhyrchiant y DU yn £130m.  Yn 2016, roedd mewnforion yn £748m ac roedd cynhyrchiant y DU yn £93m.
  • Mae oddeutu 90 y cant o flodau toredig yn cael eu mewnforio.
  • Mae ymchwil wedi dangos bod ôl-troed carbon blodau sydd wedi cael eu mewnforio oddeutu deg gwaith mwy na blodau toredig sydd wedi cael eu tyfu gartref.
  • Mae gwerthwyr blodau yn cael y mwyafrif o’u refeniw o werthiant blodau toredig sydd wedi cael eu trefnu.  Disgwylir i’r segment hwn gynhyrchu 55.1% o’r refeniw yn ystod 2018-19.
  • Mae hyn yn cynrychioli cyfartaledd gwariant yr unigolyn y flwyddyn o £36 (£28 ar flodau ac £8 ar blanhigion).
  • Yn y DU, rydym yn gwario £9 ar flodau toredig am bob £1 yr ydym yn ei gwario ar blanhigion ar gyfer y cartref5

 

Felly, beth mae hyn yn ei olygu i dyfwyr blodau/planhigion yng Nghymru?   Mae’r negeseuon allweddol yn parhau…

  • Meddyliwch am eich negeseuon marchnata – a oes gennych chi neges gref “Wedi’i dyfu yng Nghymru”?
  • Os ellir defnyddio eich blodau/planhigion fel cynhwysion mewn cynnyrch bwyd a diod, chwiliwch am gynhyrchwyr lleol a all ddefnyddio eich blodau/planhigion chi i wneud datganiad hyd yn oed cryfach ynglŷn â tharddiad lleol.
  • Meddyliwch am rannu eich adnoddau – a allech chi weithio gyda thyfwyr eraill o Gymru i gynnig detholiad ehangach o flodau neu blanhigion wedi’u tyfu’n lleol i ddarpar gwsmeriaid?  Neu a allech chi rannu logisteg neu gostau mewnbwn er mwyn helpu i wella’r elw?
  • Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol fel ffenestr siop, er mwyn hyrwyddo ac addysgu cwsmeriaid ynglŷn ag ansawdd blodau sydd wedi’u tyfu yng Nghymru mewn cymhariaeth â blodau sydd wedi cael eu mewnforio.  Mae platfformau fel Instagram hefyd yn wych ar gyfer arddangos yr hyn y gellir ei gyflawni gyda’ch blodau, fel trefniadau ayyb…  Gall Facebook a Trydar hefyd fod yn wych i rannu eich stori, neu er mwyn arddangos unrhyw gymwysterau amgylcheddol all fod gennych chi.
  • Cadwch olwg ar dueddiadau sydd ar y ffordd mewn lliwiau, amrywiadau a dulliau tyfu er mwyn sicrhau y gallwch chi gynllunio ar gyfer y dyfodol, a bod ar flaen y gad.

 

Mae Tyfu Cymru wrth ei fodd yn cefnogi Blodau yng Nghymru gan aelodau sydd ar ffermydd, gyda hyfforddiant a chefnogaeth sydd wedi cael eu cyllido.  Os oes diddordeb gennych chi i weithio gyda phobl eraill sy’n tyfu blodau a phlanhigion, anfonwch e-bost os gwelwch yn dda at tyfucymru@lantra.co.uk