Nathan Richards speaking at the Tyfu Cymru event at the 100th Royal Welsh Show

Tyfwyr arbenigol yn rhannu eu cyfrinachau yn Sioe Frenhinol Cymru 2019 

Am wythnos hyfryd arall yn Sioe Frenhinol Cymru 2019. Ni wnaeth y tywydd poeth rwystro unrhyw un, ond efallai ei fod wedi achosi ciwiau hir wrth y standiau hufen ia!

Beth wnaethon ni ei wneud?

Roeddem yn falch iawn o allu cynnal ein digwyddiad garddwriaeth fore Mercher, gyda dau siaradwr gwadd, y ddau arbenigwr ar bopeth arddwriaeth. Gyda chynulleidfa frwdfrydig a ddigon a phaneidiau i bawb, buom yn trafod y cyfleoedd a’r heriau yn y diwydiant garddwriaeth.

25 mlynedd o wybodaeth…

Ein siaradwr cyntaf oedd Gary Swaine, perchennog meithrinfa Four Crosses, yn Trallwng. Gyda dros 25 mlynedd o brofiad mewn cynhyrchu a gwerthu planhigion, mae meithrinfa Gary bellach yn gartref i 2 filiwn o blanhigion.

O yrwyr i chwistrellwyr, mae Gary yn cyflogi 12 aelod o staff llawn amser a phedwar rhan amser yn ei sefydliad. Mynegodd pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i’r ymgeisydd delfrydol gyda’r holl sgiliau angenrheidiol yma yn y DU, felly mae sicrhau ei fod yn hyfforddi ei staff yn gyson yn hanfodol ar gyfer llwyddiant y feithrinfa. Un ai fod yn hyfforddi staff am iechyd planhigion neu’n eu cyfarwyddo ar sut i yrru tractor, mae’n bwysig sicrhau bod gan bawb y sgiliau cywir.

Roedd Brexit hefyd yn bwnc sgwrsio, a sut y gallai effeithio ar y diwydiant garddwriaeth yn y dyfodol. Mae Gary yn rhagweld y gallai fod prinder planhigion yma yn a DU unwaith y bydd Brexit wedi’i gwblhau. Er y gallai hyn gael ei ystyried yn rhwystr, gellir ei ystyried hefyd yn gyfle i dyfwyr newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg lenwi’r bwlch.

Gary Swaine Four Crosses Talking at 100th Royal Welsh Show

Nid ffermwyr yn unig all fod yn a all fod yn dyfwyr llwyddiannus…

Ymlaen at ein hail siaradwr y bore, mae Nathan Richards a’i wraig yn berchen ar fferm Troed Y Rhiw yng Ngheredigion, lle maen nhw’n tyfu llysiau organig ar eu 23 erw o dir. Dewisodd Nathan newid gyrfa yn ei 40au cynnar o weithio yn y diwydiant ffilm i ddilyn ei freuddwyd. 

Nid oedd Nathan yn dod o gefndir ffermio felly roedd ganddo lawer i’w ddysgu am arddwriaeth! Mae Nathan wedi bod â diddordeb mewn ecoleg a’r amgylchedd erioed, felly meddyliodd y dylai ddod oddi ar y ffens a gwneud rhywbeth yn ei chylch. Nod Mr Richards yw rhoi ffermio yn ôl yn ganol y gymuned a chael pawb i siarad am fwyd!

Nid yn unig y mae Nathan yn tyfu ac yn gwerthu llysiau o’i fferm, ond mae hefyd yn ymwneud yn fawr ag iechyd y pridd a’r hyn y gall ei roi yn ôl i’r tir:

“Mae’n bwysig i ni ein bod ni bob amser yn ceisio gwella’r pridd yn hytrach na chymryd ohono.”

Yn falch o alw eu hunain yn ‘hyper local’, mae Richard a’i dim yn gwerthu eu cynnyrch mewn marchnad leol yng Nghasnewydd, Sir Benfro, gyda’u llysiau i gyd yn cael eu bwyta o fewn radiws o 18 milltir i’w fferm. Nid yn unig y mae Richard yn masnachu i’r cyhoedd, ond hefyd i gaffis a thafarndai lleol yn yr ardal:

“Yn hytrach nab of yn bysgodyn mawr, hoffwn i'w weld yw cronfa o lawer o bysgod bach.”

Mae Nathan hefyd yn credu’n gryf mewn addysg. Mae’n ymfalchïo mawn cael hyfforddeion a phrentisiaid i annog pobl i annog pobl i ailgysylltu a garddwriaeth. Mae Nathan yn esbonio pe bai’n cael arwyddair i’w fferm, byddai’n bolisi giât agored, lle mae croeso i bawb ddod i ddysgu.

Nathan Richards talking at 100th Royal Welsh Show

Yn ystod y sesiwn holi ac ateb, roedd thema glir yn ymddangos. Y pwnc oedd sut y gallai annog y genhedlaeth nesaf i fod yn angerddol ac eisiau dilyn gyrfa mewn garddwriaeth. Mae angen addysgu'r genhedlaeth nesaf yn ôl cyngor ein harbenigwyr, gan hysbysebu ynglŷn â’r wahanol rolau yn y sector garddwriaeth a pha mor gyffrous ac arloesol y gall gyrfa mewn garddwriaeth fod.

Mae’r digwyddiad hon yn esiampl dda nag oes ots os ydych chi newydd ddechrau eich gyrfa neu’n meddwl am newid gyrfa yn ddiweddarach mewn bywyd, mae’r diwydiant garddwriaeth yn ffynnu ac yn sychedig am dalent newydd nawr!

Gallwch wylio'r digwyddiad yn y fideo isod: