Yn dilyn llwyddiant y Rhwydwaith Ffrwythau Meddal, a lansiwyd yn gynharach yn y flwyddyn, mae’n bleser gan Tyfu Cymru gyhoeddi tair rhwydwaith newydd i gefnogi tyfwyr masnachol yng Nghymru drwy ddarparu teithiau astudio, gweithdai, cyngor arbenigol, hyfforddiant a chyfleoedd rhwydweithio.

Mae cymorth arbenigol wedi’i lansio ar gyfer tyfwyr Pwmpenni er mwyn manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael...

Mae’r rhwydwaith hwn ar gyfer tyfwyr pwmpenni a busnesau pigo eich pwmpenni eich hun a fydd yn cynnig hyfforddiant ar brisio, creu profiadau, gwasanaeth cwsmeriaid, ystyriaethau ar y safle, gweithgareddau gwerth ychwanegol a lleihau gwastraff yn ogystal â theithiau astudio i dyfwyr masnachol eraill a chyngor technegol un i un arbenigol, sydd wedi’i deilwra’n benodol i’ch busnes chi.

Gan adeiladu ar lwyddiant Rhwydwaith Ffrwythau Meddal Tyfu Cymru gyda lansiad yr ail gam.....

Yn dilyn llwyddiant Cam 1 y Rhwydwaith Ffrwythau Meddal, lle'r oedd prosiect Tyfu Cymru yn uno ac yn sefydlu rhwydwaith o dyfwyr, mae’n bleser gennym adeiladu ar lwyddiant y rhwydwaith hwn.  Yn ystod cam 1 estynnwyd gwahoddiad i dyfwyr o Gymru gymryd rhan mewn pum taith astudio ar ffermydd ffrwythau meddal ar draws Cymru a thyfwyr masnachol yn Lloegr.  Roedd y teithiau astudio hyn yn rhoi cyfle i dyfwyr yng Nghymru weld ac astudio amrediad o fusnesau a gweithrediadau masnachol ffrwythau meddal.

Yn awr mae’r ail gam yn ceisio adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o’r teithiau a datblygu’r rhwydwaith ymhellach gyda chymysgedd o gyngor technegol arbenigol un i un, wedi’i dargedu, a fydd yn cael ei deilwra i’ch busnes chi a dyddiau hyfforddiant pellach.

Lansiwyd y Rhwydwaith Ffrwythau Gorau newydd ar gyfer tyfwyr masnachol....

Mae’n bleser gennym hefyd gyflwyno ‘Rhwydwaith Ffrwythau Gorau Tyfu Cymru’ a fydd yn cynnwys y prif dyfwyr ffrwythau masnachol yng Nghymru.

Bydd Rhwydwaith Ffrwythau Gorau Tyfu Cymru yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant i’r prif dyfwyr ffrwythau masnachol yng Nghymru, gan ddod â busnesau cymwys at ei gilydd a datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau drwy ddull sy’n cyfuno teithiau astudio, adnoddau arbenigol a chyngor technegol arbenigol un i un.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r rhwydweithiau, cysylltwch â ni yn tyfucymru@lantra.co.uk