Gyda’r Sefydliad Bwyd ac Amaeth yn amcangyfrif fod angen i gynhyrchu amaethyddol gynyddu oddeutu 60% ledled byd erbyn 20501, er mwyn bwydo’r boblogaeth fwy, ac Adroddiad y Sefydliad Bwyd yn 2016 yn tynnu sylw at gyfle ar gyfer 1.5 miliwn tunnell o lysiau ychwanegol bob blwyddyn2, beth yw dyfodol cynhyrchu llysiau yng Nghymru?

Mae gan y DU ddiffyg enfawr o ran cynhyrchu ffrwythau a llysiau. Dywed Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) fod y DU yn cynhyrchu oddeutu 60% o’r bwyd a fwyteir gennym3. Yn ôl y Sefydliad Bwyd, ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, yr oedd 83 y cant o’r llysiau yr oeddem yn eu bwyta yn dod o’r DU. Erbyn hyn, mae’n 58%, yn bennaf am ein bod yn bwyta llysiau mwy egsotig4.  Mae’r darlun yn llai calonogol yng Nghymru gyda ffynonellau (Llywodraeth Cymru, Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru, 2010-2020) yn awgrymu nad ydym ond 19% yn hunangynhaliol o ran llysiau5.

Ond nid yw cyn hawsed â hau mwy o hadau yn unig, gyda dim ond 14% o dir Cymru wedi’i ddosbarthu’n addas ar gyfer cnydau âr6. Nid yw’r cyfan o'r tir hwn yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, felly mae llawer o le ar gyfer tyfu, ond hefyd, nid yw hyn yn golygu twf ar unrhyw gost, meddai Sarah Gould, Cyfarwyddwr Prosiect yn Tyfu Cymru. “Mae mynediad at adnoddau naturiol a chyfyngedig fel tir, ynni a dŵr yn hanfodol ar gyfer tyfu cynnyrch. Mae angen rheoli’r adnoddau naturiol hyn yn ofalus er mwyn agor cyfleoedd i ehangu garddwriaeth yng Nghymru”

Mae rhwydwaith bellach wedi ei sefydlu gan Tyfu Cymru i gynorthwyo tyfwyr Cymreig i oresgyn rhai o’r heriau hyn. Yn ddiweddar, cynhaliodd y ffermwr Americanaidd enwog Ben Hartman, awdur ‘The Lean Farm’ ddiwrnod addysgu ar gyfer tyfwyr llysiau Cymru ar ‘Sut i dyfu llawer o Fwyd ar ychydig i dir’, wedi’i drefnu gan Tyfu Cymru, Cynghrair Gweithwyr y Tir a Chynghrair y Tyfwyr Organig.

Yn 2017, enwyd Ben yn un o hanner cant o arweinyddion gwyrdd sy’n dod i’r amlwg yn yr Unol Daleithiau gan Grist, ac fe gyhoeddodd ganllaw i gyd-fynd â The Lean Farm, sef The Lean Farm Guide to Growing Vegetables. Ben a’i wraig Rachel Hershberger sy’n gweithredu ac yn berchen ar fferm Clay Bottom yn Goshen, Indiana, lle maen nhw’n gwneud eu bywoliaeth drwy dyfu a gwerthu cnydau arbenigol ar lai nag erw.

Mae Rhwydwaith Llysiau Tyfu Cymru yn dod â thyfwyr llysiau o’r un anian at ei gilydd i ddysgu technegau newydd, goresgyn heriau a chyfnewid syniadau gyda thyfwyr eraill. Cynhaliwyd digwyddiad nesaf y rhwydwaith ‘Tyfu Llysiau a Gaiff eu Cynhyrchu’n Gynaliadwy Drwy Gydol y Flwyddyn’ ym Mlaencamel, sy’n fenter organig flaenllaw ac arloesol sydd wedi’i chofrestru gyda Chymdeithas y Pridd ers 1976. Caiff llysiau o bob lliw a llun eu tyfu mewn 1.5 erw o dai gwydr a 12-15 erw o gaeau. Cynhyrchir eu cnydau 52 wythnos y flwyddyn ac mae’r fferm yn garbon niwtral/negyddol. Dywedodd Kate McEvoy, o Real Seeds, aelod o’r rhwydwaith a fu’n bresennol yn y ddau ddigwyddiad:

“Rydyn ni wedi gwirioneddol werthfawrogi digwyddiadau hyfforddi a Rhwydwaith Llysiau Tyfu Cymru. Rydyn ni bob amser am gadw’n gyfredol gyda syniadau a thechnegau newydd, ac fe wnaethom werthfawrogi’n benodol y cyfle i glywed Ben Hartman yn siarad am ei ddulliau gweithredu o ran gwella effeithlonrwydd ar y fferm ac i weld system gompostio Blaencamel.

Gyda newid hinsawdd a Brexit yn dal i fod yn uchel ar yr agenda gwleidyddol, nawr yw’r amser delfrydol i dynnu sylw at y cyfleoedd am gynnyrch cartref o Gymru, boed yn cael ei dyfu ar gyfer archfarchnadoedd, marchnadoedd lleol neu leol iawn. Mae Rhwydwaith Llysiau Tyfu Cymru yn anelu at ddod â thyfwyr ynghyd, i siarad gydag un llais ac i edrych i sicrhau cyllid a chymorth hirdymor yn y dyfodol.

Fodd bynnag, i gyflawni hyn, mae angen gwybodaeth fanwl ar gynhyrchu garddwriaeth fwytadwy yng Nghymru, a gall fod yn anodd cael gafael ar dystiolaeth o'r fath, yn arbennig o ran niferoedd. Dyma pam fod Tyfu Cymru yn galw ar dyfwyr llysiau i roi dau funud o’u hamser i lenwi arolwg i ddarparu ystadegau sylfaenol ar arddwriaeth fwytadwy Gymreig. Bydd yr arolwg yn mesur ardal, cynhyrchiant a maint cnydau garddwriaeth – cynhyrchu ffrwythau, llysiau (tatws fel categori ar wahân) a pherlysiau ym mis Chwefror 2020.

I gymryd rhan yn yr arolwg, cysylltwch â tyfucymru@lantra.co.uk

Rydym hefyd yn annog tyfwyr llysiau i ddefnyddio’r cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd, drwy ymuno â Rhwydwaith Llysiau Tyfu Cymru sy’n cael ei ariannu’n llawn. I ymuno, anfonwch e-bost at tyfucymru@lantra.co.uk

  1. http://www.fao.org/news/story/en/item/35571/icode/
  2. https://foodfoundation.org.uk/new-report-veg-facts/
  3. https://www.nfuonline.com/home-grown-food-production-is-key-nfu-president/
  4. https://foodfoundation.org.uk/new-report-veg-facts/
  5. https://gov.wales/food-strategy-wales-2010-2020
  6. https://www.assembly.wales/research%20documents/16-053-farming-sector-in-wales/16-053-web-english2.pdf