Janet Allen

Ymgynghorydd Garddwriaeth

Rwy’n Ymgynghorydd Garddwriaeth sy’n arbenigo ym mhob agwedd ar gynhyrchu ffrwythau meddal a ffrwythau coed a choed Nadolig. Ers nifer o flynyddoedd rwyf wedi bod yn gweithio yn y sectorau diwydiant garddwriaeth uchod sy’n cyflenwi archfarchnadoedd mawr ond hefyd yn uniongyrchol gyda ffermydd lle mae pobl yn cael pigo eu ffrwythau, siopau ffermydd a chyflenwi cynnyrch yn uniongyrchol i’r cyhoedd. Mae gweithio gyda chynhyrchwyr llai wedi bod yn arbennig o bwysig i mi gan fy mod wedi cael gweld tyfwyr sy’n cynhyrchu cnydau ar raddfa fach ond gan lwyddo i fabwysiadu nifer o’r technegau mae nifer o’r tyfwyr mawr yn credu sy’n unigryw iddyn nhw.

Mae fy niddordebau ymchwil o ran ffrwythau meddal yn cynnwys asesu cyltifarau newydd o fafon sy’n dwyn ffrwyth yn yr haf a'r hydref, rheoli chwyn, rheoli plâu a chlefydau (yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan weithio gyda gwyddonwyr o RSK y Gwasanaeth Datblygu a Chynghori Amaethyddol a chyrff ymchwil eraill ar nifer o brosiectau ffrwythau meddal sydd wedi golygu datblygu a mabwysiadu defnyddio llai o blaleiddiad yn y diwydiant, lleihau gweddillion ac IPM mewn mefus, mafon a mwyar duon). Roeddwn wedi gweithio gyda chydweithwyr ar gynllun sicrwydd gwreiddiol Tesco Natures Choice ar gyfer cnydau ffrwythau cansenni, rwyf wedi bod yn gyfrifol am archwiliadau plaleiddiad ar gyfer AHDB ac rwyf yn awdur protocolau Cynnyrch Gwarantedig ar gyfer mefus a chnydau ffrwythau cansenni. O ran ffrwythau coed mae fy mhrif waith dros y blynyddoedd diwethaf wedi ymwneud â chynhyrchu ceirios ac eirin ar gyfer manwerthu ar ffermydd.

Rwyf wedi bod yn gweithio gyda diwydiant coed Nadolig y DU ers dros 25 o flynyddoedd, gan ddarparu pob math o wasanaethau ymgynghori ynghylch cnydau, datblygu cynnyrch newydd, rheoli plâu a chlefydau ac ati.