Sarah Gould

Rheolwr Cydweithio a Chadwyn Gyflenwi Garddwriaeth

Dechreuodd Sarah weithio gyda Lantra yn 2005 fel Cydlynydd Ymchwil ac mae wedi datblygu i’w swydd bresennol fel Rheolwr Prosiect i Tyfu Cymru. Drwy’r prosiect hwn, maent yn ceisio cefnogi a hwyluso busnesau garddwriaeth masnachol i fod yn fwy cynhyrchiol, proffidiol ac yn barod am yr heriau maent yn eu hwynebu.

Mae’n ymfalchïo yn ei gwreiddiau yn Swydd Gaerhirfryn, wrth dyfu i fyny roedd yn credu bod pridd bob amser yn ddu a bod moron wedi’u gorchuddio mewn mwd! Symudodd Sarah i astudio yng Ngholeg Amaethyddol Swydd Warwig, Moreton Morrell ac yna bu’n ymgymryd ag astudiaethau Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Amaethyddol Brenhinol Cirencester.

Ar ôl pum mlynedd yn gweithio yn y diwydiant, bu’n gweithio mewn swyddi addysgu ym maes Addysg Bellach yng Ngholeg Pencoed a Reaseheaeth ac yna bu’n Bennaeth Adran yng Ngholeg Wiltshire.