Kevin Thomas

Cyfarwyddwr

Mae Kevin yn defnyddio ei ddealltwriaeth helaeth am y sector amgylcheddol a’r tir, i ddatblygu cylch gwaith Lantra ymhellach yng Nghymru.

Ar ôl graddio o Brifysgol Reading gyda BSc mewn Amaethyddiaeth, bu’n gweithio ar secondiadau hyfforddiant mewn busnesau blaenllaw yng Ngorllewin Anglia a Chaint cyn dychwelyd i Gymru i ymgymryd â chyfres o swyddi amaethyddol ac amgylcheddol yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Yna bu Kevin yn gweithio yn Awdurdod Datblygu Cymru (WDA) a Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn nifer o rolau strategol a chyllid, a oedd yn gysylltiedig â Cyswllt Ffermio a Strategaethau Garddwriaeth ac Organig Cymru.

Ymunodd Kevin â Lantra o Goleg Garddwriaeth Cymru, ar ôl rheoli prosiect datblygu Busnes Garddwriaeth Interreg cyn hynny gyda phartneriaid yn Iwerddon.